Ailsefydlu ffensys diffygiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i ailsefydlu ffensys diffygiol. Mae'r term "diffygiol" yn cynnwys cydrannau sydd wedi eu niweidio neu eu treulio.
Mae'r safon hon hefyd yn berthnasol i gatiau a rhwystrau.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
– symud ac adnewyddu cydrannau diffygiol
– ailsefydlu ffensys i fodloni'r manylebau penodol.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei gymhwyso i gefnogi unrhyw fath o ffens.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- cael y deunyddiau a nodwyd, yn ôl math, deunydd, ansawdd a gradd
- tynnu cydrannau diffygiol yn ddiogel, gan leihau niwed i'r cydrannau a'r sylfeini cyfagos
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i ailosod ffensys diffygiol, yn cynnwys gatiau a rhwystrau lle maent wedi cael eu gosod, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gwirio integredd y cydrannau sydd wedi eu hailosod a'u haddasrwydd at y diben
- cynnal integredd gorffeniadau amddiffynnol wrth osod
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân a hawdd eu gwasanaethu
- gwaredu gwastraff a deunydd dros ben yn ddiogel er mwyn lleihau'r risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n cael yr effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig ag ailosod ffensys diffygiol
- y peryglon a'r risg ychwanegol sydd yn gysylltiedig ag atgyweirio ffensys dros ddwy fetr o uchder
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad at y safle
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gyferbyn â phriffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer ailosod ffensys diffygiol a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar wedi eu pweru
- y mathau gwahanol o ddeunyddiau a chydrannau ffensio
- y mathau gwahanol o adeiladu ffensys, yn cynnwys gatiau a rhwystrau
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer cydosod ffensys a chydrannau ffensys
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gosod cydrannau ffensio i byst
- y mathau gwahanol o orffeniadau amddiffynnol, pam y cânt eu defnyddio a'r dulliau ar gyfer cynnal eu hintegredd wrth eu gosod
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae diffygiol yn cynnwys cydrannau wedi eu niweidio neu eu treulio
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau y cynhyrchydd
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar