Archwilio ffensys i nodi diffygion ac opsiynau atgyweirio
URN: LANFe11
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i archwilio ffensys i nodi diffygion a chanfod opsiynau atgyweirio. Mae'r term "diffygion" yn cynnwys cydrannau sydd wedi eu niweidio neu eu treulio.
Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys gatiau a rhwystrau.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
– archwilio ffensys a nodi unrhyw gydrannau diffygiol
– argymell a chytuno ar opsiynau atgyweirio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei gymhwyso i gynnal unrhyw fath o ffens.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cwblhau asesiad risg sy'n benodol i'r safle i nodi peryglon
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- cael cyfarwyddiadau a manylebau ffensys
- archwilio'r ffensys, yn cynnwys gatiau a rhwystrau lle maent wedi eu gosod, i nodi unrhyw ddiffygion yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- pennu'r gofynion ar gyfer adnewyddu ffensys a chydrannau ffensys, gan ddefnyddio offer mesur lle bo angen
- cofnodi'r diffygion yn ogystal â'r deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer atgyweirio
- nodi'r opsiynau atgyweirio fydd yn adfer integredd y ffens a'i gadw'n addas at y diben
- cytuno ar yr opsiynau atgyweirio a'r raddfa amser gyda'r bobl berthnasol er mwyn bodloni'r cyfarwyddiadau a'r manylebau a'r adnoddau sydd ar gael
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n cael yr effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi cael ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynnal asesiad risg a pham y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg
- ble i gael cyfarwyddiadau a manylebau ffensio
- manylebau a gofynion systemau ffensio gwahanol
- y dulliau y gellir eu defnyddio i archwilio ffensys, yn cynnwys gatiau a rhwystrau lle maent wedi cael eu gosod, a nodi eu diffygion
- y ffactorau i'w hystyried wrth archwilio
- y diffygion cyffredin sydd yn gysylltiedig â mathau gwahanol o ffensys a sut i nodi a ydynt yn bresennol
- sut i wirio meintiau a dimensiynau cydrannau
- sut i bennu'r opsiynau atgyweirio
- sut gall cyfyngiadau o ran adnoddau effeithio ar opsiynau atgyweirio
- manteision ac anfanteision yr opsiynau atgyweirio gwahanol
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae diffygion yn cynnwys cydrannau wedi eu niweidio a'u treulio
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
Gallai opsiynau atgyweirio gynnwys:
- adnewyddu cydrannau
- ar ôl adnewyddu neu atgyweirio
- atgyweirio cydrannau
- gosod gorffeniad amddiffynnol
- ailosod y ddaear
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe11
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
cydrannau; namau; diffygion; atgyweirio; trwsio; mendio; ffensys; gatiau; rhwystrau