Castio concrid wedi ei atgyfnerthu

URN: LANFe10
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio sut i gastio concrid wedi ei atgyfnerthu. Mae'n ymwneud â'r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud wrth gastio concrid wedi ei atgyfnerthu.

Mae'r safon hon yn cynnwys:

  • gwneud y paratoadau sy'n ofynnol i gefnogi'r broses gastio
  • castio concrid yn unol â'r manylebau.

Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen castio concrid wedi ei atgyfnerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. dewis a pharatoi'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol
  5. gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
  6. paratoi a gosod estyllod yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  7. sefydlu a sicrhau atgyfnerthiad yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau 
  8. dewis concrid o'r math, deunydd, ansawdd a gradd benodol
  9. castio a chywasgu concrid i ffurfio cydrannau o'r cryfder, siâp a gorffeniad penodedig
  10. monitro'r broses galedu a nodi pryd mae'r concrid wedi caledu
  11. taro estyllod heb niweidio'r concrid
  12. sefydlu diogelwch ar gyfer concrid wedi ei atgyfnerthu sydd newydd ei gastio
  13. defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel ac mewn cyflwr glân y gellir eu gwasanaethu
  14. gwaredu gwastraff a deunydd dros ben i leihau'r risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  15. gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r niwed lleiaf posibl i'r ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chastio concrid wedi ei atgyfnerthu
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
  3. y gofynion a'r gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad i'r safle
  4. y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
  5. y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
  6. y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio wrth ochr priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
  7. ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
  8. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer castio concrid wedi ei atgyfnerthu a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  9. y mathau o ddeunyddiau a ddefnyddir i greu estyllod
  10. y rhesymau pam y caiff concrid ei atgyfnerthu
  11. y mathau o ddeunyddiau a ddefnyddir fel atgyfnerthiad
  12. sut a pham y defnyddir cyfryngau rhyddhau i baratoi estyllod
  13. y peryglon a'r gofynion diogelwch sydd yn gysylltiedig â chyfryngau rhyddhau
  14. y deunyddiau a'r cymarebau a ddefnyddir i baratoi concrid
  15. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer cymysgu, castio, cywasgu, gorffen a chaledu concrid
  16. sut i wybod pan fydd y concrid wedi caledu
  17. sut gall amodau amgylcheddol effeithio ar y broses o galedu concrid
  18. pam y mae'n bwysig sefydlu diogelwch ar gyfer concrid sydd newydd galedu
  19. terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
  20. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
  21. y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
  22. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE
  • cyfarwyddiadau llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe10

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

estyllod; ffensio; concrid; atgyfnerthu