Lleoli a nodi gwasanaethau ar y safle

URN: LANFe1
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio sut i leoli a nodi gwasanaethau wrth weithio ar safle ffensio. 

 

Gallai’r gwasanaethau fod uwchlaw neu islaw'r ddaear a gallent gynnwys nwy, trydan, dŵr, draeniad a chyfathrebiadau.

 

Byddwch yn gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau i leoli a nodi gwasanaethau.

Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  4. dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
  5. lleoli a chadarnhau bodolaeth gwasanaethau gan ddefnyddio'r dulliau perthnasol
  6. sefydlu arwyddion rhybudd clir a rhwystrau i ddiogelu a dangos presenoldeb gwasanaethau
  7. defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân a hawdd i'w gwasanaethu
  8. gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn achosi'r effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â lleoli gwasanaethau ar y safle
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni  
  3. y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad i'r safle
  4. ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
  5. y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer lleoli a nodi gwasanaethau a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  6. y gwasanaethau cyffredin sy'n debygol o fod yn bresennol ar y safle
  7. y dulliau y gellir eu defnyddio i gael gwybodaeth am leoliad gwasanaethau ar y safle
  8. y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
  9. y camau a’r gweithdrefnau adrodd i’w dilyn pan fydd gwasanaethau anhysbys wedi eu lleoli ar y safle

  10. y camau a'r gweithdrefnau adrodd i'w dilyn os caiff gwasanaethau eu niweidio

  11. y rheolyddion i'w sefydlu i ddiogelu gwasanaethau ac atal anafiadau i'r gweithlu ac unrhyw un arall a allai ddod i gysylltiad â nhw
  12. y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar yn cynnwys arwyddion a rhwystrau amddiffynnol
  13. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, yn arbennig wrth ddefnyddio tyllau arbrofol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cwsmeriaid
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE
  • cyfarwyddiadau llafar

Gallai dulliau o leoli ac adnabod gwasanaethau gynnwys:

  • cynlluniau
  • gwiriadau gweledol
  • tyllau arbrofol
  • gwybodaeth lafar
  • offer osgoi ceblau

Gallai gwasanaethau gynnwys:

  • nwy
  • trydan
  • dŵr
  • draeniad
  • cyfathrebiadau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe1

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

gwasanaethau; cyfleustodau; CAT; Genny