Rheoli gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys rheoli gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth. Rheoli hyfforddiant a datblygiad staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid, systemau, cyfarpar a thechnolegau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol, data cyfredol a diogelu data sydd yn berthnasol i’r amgylchedd blodeuwriaeth. Yn ogystal â rheoli ymchwil defnyddwyr, rheoli strwythurau prisiau o fewn deddfwriaeth yr amgylchedd blodeuwriaeth a rheoli datblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol y cwmser.
Gallai’r cwsmeriaid yn y safon hon fod yn gwsmeriaid sydd yn rhoi archeb flodau yn uniongyrchol i’r gwerthwr blodau, asiantaethau sydd yn gysylltiedig ag archebu ar ran cleient, y cwsmer sydd yn derbyn yr archeb ond nid yn rhoi’r archeb yn uniongyrchol.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig gyda rhywfaint o gyfrifoldeb dros staff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Rheoli gofynion staffio ac amserlenni gweithleoedd er mwyn gwella gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Rheoli a datblygu hyfforddiant yr holl staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Gweithredu hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer yr holl staff, yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Rheoli a gweithredu hyfforddiant ar bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol sydd yn berthnasol i wasanaeth cwsmeriaid, y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr cyfredol a’r holl gyfraith defnyddwyr sy’n ymddangos
- Gweithredu hyfforddiant ar ddefnyddio systemau, cyfarpar a thechnolegau a ddefnyddir i alluogi’r gwaith o brosesu gofynion cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Gweithredu hyfforddiant yn ymwneud â defnyddio a storio gwybodaeth am cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a deddfwriaeth gyfredol
- Rheoli cydymffurfiaeth gan yr holl staff â deddfwriaeth gyfredol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn ymwneud â gofal defnyddwyr
- Datblygu a gweithredu offer ymchwil i gynorthwyo’r ddealltwriaeth o ofynion cwsmeriaid
- Rheoli ymchwil i ofynion cwsmeriaid i helpu’r busnes i ddatblygu cyfleoedd gwerthu a gweithgareddau hyrwyddo yn y dyfodol
- Arwain staff iau i ddatblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol demograffeg defnyddwyr
- Cynorthwyo staff iau i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau cwsmeriaid yn ymwneud ag opsiynau blodeuwriaeth a gyflwynir i’r cwsmer
- Rheoli ystod gymhleth o ofynion cwsmeriaid lle mae angen cydweithrediad sawl parti i gyflawni canlyniad llwyddiannus
- Sefydlu, gweithredu a monitro’r strwythur prisio ar gyfer blodau, planhigion a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i helpu i wella gwasanaeth cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i reoli gofynion staffio ac amserlenni gweithle er mwyn gwella rheolaeth gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Sut i reoli, datblygu a gweithredu hyfforddiant yr holl staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol perthnasol, y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr gyfredol a chyfraith defnyddwyr sy’n ymddangos i’r amlwg, mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Pwysigrwydd hyfforddi’r holl staff ar ddefnyddio systemau, cyfarpar a thechnolegau i alluogi’r gwaith o brosesu gofynion cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Pwysigrwydd hyfforddi’r holl staff yn ymwneud â defnyddio a storio gwybodaeth am y cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol a deddfwriaeth gyfredol
- Sut i reoli cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol a pholisi a gweithdrefnau’r sefydliadol yn ymwneud â gofal defnyddwyr gan yr holl staff
- Y mathau gwahanol o amrywiaeth diwylliannol o fewn sylfaen cwsmeriaid/demograffeg defnyddwyr y busnes
- Sut i ddatblygu a gweithredu offer ymchwil i ddeall gofynion cwsmeriaid
- Sut i reoli’r gwaith ymchwil i ofynion cwsmeriaid i helpu’r busnes blodeuwriaeth i ddatblygu cyfleoedd gwerthu a gweithgareddau hyrwyddo yn y dyfodol
- Sut i arwain staff iau wrth ddatblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol demograffeg defnyddwyr
- Pwysigrwydd cynorthwyo staff iau i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau cwsmeriaid yn ymwneud â’r opsiynau blodeuwriaeth a gyflwynir i’r cwsmer
- Sut i gydweithredu â sawl parti i gyflwyno ystod gymhleth o ofynion cwsmeriaid
- Sut i sefydlu, gweithredu a monitro strwythur prisiau blodau, planhigion a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i helpu i wella gwasanaeth cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunydd Botanegol Ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull enwi: Y ffordd y mae deunyddiau botanegol yn cael eu hadnabod gan ddefnyddio eu genws, rhywogaeth ac amrywiad.
Heneiddiad: Y broses o’r ffordd y mae deunydd botanegol yn aeddfedu ar ôl eu torri.