Cefnogi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cefnogi gofynion y cwsmer o ran blodeuwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â’r cwsmer, dehongli gofynion y cwsmer, ymchwilio ac adolygu’r opsiynau blodeuwriaeth, hysbysu’r cwsmer ynghylch opsiynau blodeuwriaeth, ymdrin â chwestiynau ac ymholiadau’r cwsmer yn ymwneud ag opsiynau blodeuwriaeth, yn ogystal â chynnal gwybodaeth am y strwythurau prisio, a manion bethau i helpu i gefnogi’r busnes blodeuwriaeth.
Gallai cwsmeriaid yn y safon hon fod yn gwsmeriaid sydd yn rhoi’r archeb blodeuwriaeth yn uniongyrchol i’r gwerthwr blodau, asiantaethau sydd yn gysylltiedig ag archebu ar ran cleient, y cwsmer sydd yn derbyn yr archeb ond ddim yn rhoi’r archeb yn uniongyrchol.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Uwch Werthwr Blodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ymgysylltu â chwsmeriaid gan ddefnyddio dulliau perthnasol, i nodi eu gofynion yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Dehongli a chofnodi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth gan ddefnyddio’r dulliau perthnasol sydd ar gael yn eich sefydliad
- Ymchwilio ac adolygu’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi gofynion y cwsmer o ran blodeuwriaeth
- Defnyddio’r wybodaeth a’r ymchwil sydd ar gael yn y diwydiant blodeuwriaeth i gefnogi gofynion y cwsmer
- Cyflwyno’r opsiynau i’r cwsmer sydd yn cyd-fynd â’u gofynion yn ymwneud â blodeuwriaeth, cyfathrebu costau, cyfnodau amser ac unrhyw fuddion ychwanegol
- Rhoi cyfle i’r cwsmer drafod ac archwilio’r opsiynau sydd yn cyd-fynd â’u gofynion yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Ymateb i gwestiynau ac ymholiadau gan gwsmeriaid yn ymwneud â’r opsiynau blodeuwriaeth, gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r ymchwil sydd ar gael yn y diwydiant blodeuwriaeth
- Manteisio ar y cyfleoedd gwerthu sydd yn bodoli ar draws y tymhorau a’r cyfnodau brig mewn amgylchedd blodeuwriaeth, i gynyddu gwerthiant
- Cynnal strwythurau prisio ar gyfer blodau, planhigion, a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i’ch galluogi i gefnogi gofynion y cwsmer
- Defnyddio’r systemau, y cyfarpar a’r dechnoleg sydd ar gael yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i’ch helpu i gefnogi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Cadarnhau’r gwerthiant blodau gyda’r cwsmer, gan ddilyn gweithdrefnau’r sefydliadol perthnasol ac esbonio eu hawliau defnyddiwr i’r cwsmer
- Dilyn polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid
- Cynnal a storio gwybodaeth am cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y dulliau cyfathrebu gwahanol sydd ar gael yn eich sefydliad i gyfathrebu gyda’r cwsmer i helpu i nodi eu gofynion yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Sut i ddehongli a chofnodi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth gan ddefnyddio dulliau perthnasol
- Gofynion a blaenoriaethau gwahanol y cwsmer a’r ffordd orau o ymateb i’w disgwyliadau, gallai hyn gynnwys gwahaniaethau diwylliannol, cyllideb, cynnwys, achlysur, arddull dylunio
- Sut i ymchwilio ac adolygu’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Ble i gael gwybodaeth ac ymchwil sydd ar gael yn y diwydiant blodeuwriaeth i gefnogi gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Nodweddion a buddion yr opsiynau blodeuwriaeth a nodwyd a’u pwyntiau gwerthu unigryw
- Pwysigrwydd rhoi’r cyfle i’r cwsmer drafod ac archwilio’r opsiynau yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Sut i ymateb i’r cwestiynau a’r ymholiadau gan y cwsmer yn ymwneud â’r opsiynau blodeuwriaeth
- Y cyfleoedd gwerthu sydd yn bodoli ar draws y tymhorau a’r cyfnodau brig mewn amgylchedd blodeuwriaeth a sut i ddefnyddio’r rhain i gynyddu gwerthiannau
- Pwysigrwydd cynnal strwythurau prisio ar gyfer blodau, planhigion a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i’ch galluogi i gynghori’r cwsmer
- Sut i ddefnyddio’r systemau, cyfarpar a’r dechnoleg sydd ar gael yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i fodloni gofynion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Pwysigrwydd dilyn polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr gyfredol wrth derfynu’r gwerthiant blodau
- Sut i weithio o fewn a chefnogi datblygiad polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid
- Sut i gynnal a storio gwybodaeth am cwsmeriaid yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmer: y person sydd yn gwneud yr archeb, y person sydd yn derbyn yr archeb, y ddau.
Deunydd Botanegol ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull enwi: Y ffordd y caiff deunyddiau botanegol eu hadnabod gan ddefnyddio eu genws, rhywogaeth ac amrywiad.
Heneiddiad: Y broses o’r ffordd y mae deunydd botanegol yn aeddfedu unwaith y mae wedi cael ei dorri.