Bodloni anghenion cwsmeriaid yn ymwneud â blodeuwriaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys bodloni anghenion cwsmeriaid yn ymwneud â blodeuwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu gyda’r cwsmer, dehongli anghenion cwsmeriaid, adolygu opsiynau o fewn terfynau eich awdurdod a’ch gwybodaeth, rhoi’r opsiynau blodeuwriaeth i’r cwsmer, ateb cwestiynau ac ymholiadau’r cwsmer o fewn terfynau eich awdurdod a’ch gwybodaeth, yn ogystal â chynnal gwybodaeth am strwythur prisio blodau, planhigion a manion bethau o fewn yr amgylchedd blodau.
Gallai’r cwsmeriaid yn y safon hon fod yn gwsmeriaid sydd yn rhoi’r archeb flodau yn uniongyrchol i’r gwerthwr blodau, asiantaethau sydd yn gysylltiedig ag archebu ar ran cleient, y cwsmer sydd yn derbyn yr archeb ond nid yn rhoi’r archeb yn uniongyrchol.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Iau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfathrebu gyda’r cwsmer gan ddefnyddio dulliau perthnasol, i nodi eu hanghenion yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Cofnodi anghenion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth gan ddefnyddio dulliau perthnasol sydd ar gael yn y sefydliad
- Nodi ac adolygu’r opsiynau sydd ar gael i fodloni anghenion y cwsmer ynglŷn â blodeuwriaeth, o fewn terfynau eich awdurdod, gan atgyfeirio at uwch gydweithwyr a chyflenwyr pan fo angen
- Rhoi opsiynau i gwsmeriaid sydd yn cyd-fynd â’u hanghenion o ran blodeuwriaeth, cyfathrebu costau, cyfnodau amser ac unrhyw fuddion ychwanegol
- Rhoi’r cyfle i’r cwsmer drafod ac archwilio’r opsiynau sydd yn cyd-fynd â’u hanghenion yn ymwneud â blodeuwriaeth
- Ateb cwestiynau ac ymholiadau gan gwsmeriaid yn ymwneud ag opsiynau blodeuwriaeth, gan atgyfeirio unrhyw gwestiynau uwchlaw terfynau eich awdurdod neu wybodaeth i uwch gydweithiwr neu gyflenwr
- Defnyddio cyfleoedd gwerthu sydd yn bodoli ar draws y tymhorau a chyfnodau brig mewn amgylchedd blodeuwriaeth
- Defnyddio’r systemau, y cyfarpar a’r dechnoleg sydd ar gael yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i helpu i fodloni anghenion blodeuwriaeth y cwsmer
- Cadarnhau’r gwerthiant blodau gyda’r cwsmer, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ac esbonio’u hawliau defnyddiwr i’r cwsmer
- Dilyn polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid bob amser
- Cynnal a storio gwybodaeth am cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y dulliau cyfathrebu gwahanol sydd ar gael yn eich sefydliad i gyfathrebu gyda chwsmeriaid i helpu i nodi eu hanghenion blodeuwriaeth
- Sut i ddehongli a chofnodi anghenion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth gan ddefnyddio dulliau perthnasol
- Anghenion a blaenoriaethau gwahanol y cwsmer a’r ffordd orau o ymdrin â’u disgwyliadau, gallai hyn gynnwys gwahaniaethau diwylliannol, cyllideb, arddull dylunio
- Sut i nodi opsiynau sydd ar gael i fodloni anghenion y cwsmer yn ymwneud â blodeuwriaeth ac adolygu eu haddasrwydd, o fewn terfynau eich awdurdod
- Nodweddion a buddion yr opsiynau blodeuwriaeth a nodir a’u pwyntiau gwerthu unigryw
- Pwysigrwydd rhoi’r cyfle i gwsmeriaid drafod ac archwilio opsiynau blodeuwriaeth sydd yn cyd-fynd â’u hanghenion a phryd i atgyfeirio cwestiynau ac ymholiadau uwchlaw eich awdurdod neu wybodaeth i uwch gydweithiwr neu gyflenwr
- Y cyfleoedd gwerthu sydd yn bodoli ar draws y tymhorau a’r cyfnodau brig yn yr amgylchedd blodeuwriaeth
- Strwythur prisio’r blodau, planhigion a’r manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i’ch galluogi chi i gynghori’r cwsmer am eu hanghenion blodeuwriaeth
- Sut i ddefnyddio’r systemau, cyfarpar a’r dechnoleg sydd ar gael yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i fodloni anghenion y cwsmer
- Pwysigrwydd dilyn polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr wrth derfynu gwerthiant blodau
- Polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid
- Sut i gynnal a storio gwybodaeth cwsmer yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmer: y person sydd yn gwneud yr archeb, y person sydd yn derbyn yr archeb, y ddau.
Deunydd Botanegol ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull enwi: Y ffordd y caiff deunyddiau botanegol eu hadnabod gan ddefnyddio eu genws, rhywogaeth ac amrywiad.
Heneiddiad: Y broses o’r ffordd y mae deunydd botanegol yn aeddfedu unwaith y mae wedi cael ei dorri.