Rheoli digwyddiadau blodau
URN: LANFLR6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Blodeuwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau blodau. Mae’n cynnwys rhoi’r sgiliau rheoli gofynnol ar waith i gynllunio, creu, rheoli a gwerthuso digwyddiadau blodau cymhleth.
Bydd hyn yn cynnwys dehongli briff y cleient/digwyddiad a chreu, cyflwyno a gweithredu cynlluniau sydd yn addas ar gyfer digwyddiadau hyfyw, cymhleth.
Wrth wneud y gwaith i gyd, dylid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi a dehongli gofynion cleientiaid ar gyfer digwyddiad blodau
- Creu darluniau cymhleth a chynlluniau wedi’u labelu i ddangos cysyniadau y gellir eu defnyddio ar gyfer gosodiadau corfforaethol, digwyddiadau ac ar raddfa fawr fel rhan o ymgynghoriad dyluniad
- Defnyddio ystod o sgiliau rheoli digwyddiadau i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio’r digwyddiadau blodau gan sicrhau bod y dyluniadau arfaethedig yn addas at y diben
- Sicrhau bod y dyluniadau sydd wedi eu cynllunio yn hyfyw yn fasnachol
- Cwblhau ymweliad safle, cofnodi’r wybodaeth ofynnol yn gywir a nodi unrhyw faterion/problemau posibl
- Cyfrifo cost digwyddiadau blodau a chreu dyfynbrisiau ffurfiol
- Creu amserlen waith ar gyfer y cleient
- Nodi unrhyw gyfleoedd marchnata posibl
- Creu cynllun addurno perthnasol ar gyfer y digwyddiad blodau
- Cyflwyno cynnig dylunio i’r cleient gan ddefnyddio fformat addas ac ymateb i unrhyw adborth gan y cleient lle bo angen
- Creu cynllun gwaith ar gyfer creu dyluniadau a sefydlu digwyddiadau blodau, gan nodi unrhyw bersonél ac adnoddau sydd yn ofynnol
- Creu cynllun gwaith ar gyfer creu dyluniadau a sefydlu’r digwyddiad blodau
- Creu rhestr brynu a ble i gael y deunyddiau gofynnol
- Cadarnhau bod yswiriant perthnasol, lle bo angen, yn ei le ar gyfer rheoli digwyddiad blodau
- Cwblhau asesiad risg o’r safle cyn y digwyddiad blodau
- Sicrhau bod y deunyddiau wedi eu tarddu’n gynaliadwy lle y bo’n bosibl a bod deunydd gwastraff yn cael ei waredu mewn ffordd gynaliadwy ac eco-gyfeillgar
- Gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i adnabod a dehongli gofynion cleientiaid ar gyfer digwyddiad blodau
- Sut i greu darluniau cymhleth a chynlluniau wedi’u labelu i ddangos cysyniadau y gellir eu defnyddio ar gyfer gosodiadau corfforaethol, digwyddiad ac ar raddfa fawr fel rhan o ymgynghoriad dyluniad
- Sut i ddefnyddio ystod o sgiliau rheoli digwyddiadau i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio ar gyfer digwyddiadau blodau gan sicrhau bod y dyluniadau arfaethedig yn addas at y diben
- Sut i sicrhau bod y dyluniadau a gynlluniwyd yn hyfyw yn fasnachol
- Sut i gwblhau ymweliad safle, gan gofnodi’r wybodaeth ofynnol yn gywir a nodi unrhyw broblemau posibl
- Sut i gyfrifo cost digwyddiadau blodau a chreu dyfynbrisiau ffurfiol
- Sut i greu amserlen waith ar gyfer y cleient
- Sut i nodi unrhyw gyfleoedd marchnata posibl
- Sut i greu cynllun addurno perthnasol ar gyfer y digwyddiad blodau
- Sut i gyflwyno cynnig dylunio i’r cleient/cynlluniwr y digwyddiad gan ddefnyddio fformat addas ac ymateb i unrhyw adborth lle bo angen
- Sut i greu cynllun gwaith ar gyfer creu dyluniadau a sefydlu digwyddiadau blodau, gan nodi unrhyw bersonél ac adnoddau sydd eu hangen
- Y gofynion yswiriant perthnasol ar gyfer rheoli digwyddiad blodau
- Sut i gwblhau asesiad risg cyn y digwyddiad blodau
- Sut i sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu caffael yn gynaliadwy lle y bo’n bosibl a bod deunydd gwastraff yn cael ei waredu mewn ffordd gynaliadwy ac eco-gyfeillgar
- Y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Sgiliau rheoli digwyddiad. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:-
Gyfweld /cysylltu â chleient
Dehongli briff dyluniad
- Dadansoddiad o’r lleoliad
- Cost y digwyddiad a newidion
- Paratoi dyfynbris ffurfiol
- Telerau ac amodau cyflenwi
- Gweithdrefnau prynu
- Rhestrau prynu ar gyfer digwyddiad
- Cynlluniau/amserlenni gwaith
- Logisteg
- Dadansoddiad SWAT
- Iechyd a Diogelwch/Asesiad Risg
- Yswiriant
- Defnydd o reolaeth digwyddiadau/TG rheoli prosiect
- Sgiliau arweinyddiaeth
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
- Gweithdrefnau rheoli ansawdd
- Sgiliau datrys problemau
- Astudiaeth ddichonoldeb
- Gwerthu a marchnata
- Cadw cofnodion
- Sgiliau rheoli amser
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFLR6
Galwedigaethau Perthnasol
Gwerthwr Blodau Datblygedig
Cod SOC
1150
Geiriau Allweddol
Blodau; planhigion; creu; gwerthwr blodau; gwerthu blodau; cyfrwng; dull enwi