Cynllunio ac adeiladu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig ar gyfer eu gwerthu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chreu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig ar gyfer eu gwerthu. Bydd dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig yn cynnwys dyluniadau ar gyfer digwyddiadau mawr, dyluniadau ar raddfa fawr, dyluniadau pwrpasol. Bydd yn cynnwys defnyddio technegau cymhleth, ystod eang o ddeunydd creu a graddfeydd amser amrywiol. Bydd hyn yn cynnwys ehangu’r ddealltwriaeth o ddamcaniaeth flodau a meistroli technegau cyfoes a mecanweithiau dylunio.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys y Gwerthwr Blodau Datblygedig yn gweithio ar gynlluniau, creu dyluniadau a gwerthuso creadigaethau, yn ogystal â rheoli personél i helpu i fodloni anghenion y busnes blodeuwriaeth.
Wrth gynnal yr holl waith dylid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig â chyfrifoldebau rheoli
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod archebion cwsmeriaid/cleientiaid wedi cael eu dehongli yn unol â gofynion y cwsmer, gallai hyn gynnwys briff y cwsmer, cyllideb/cost, diben, amser ar gyfer creu ac unrhyw broblemau posibl a allai godi
- Cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) gofynnol wedi cael eu dewis, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel
- Datblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau hyfforddi ar gyfer yr holl bersonél sydd yn gysylltiedig â chynllunio a chreu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gwahanol
- Creu brasluniau datblygedig a chynlluniau wedi’u labelu lle bo angen a ddefnyddir i fodloni anghenion y cleient
- Cynllunio dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan ystyried addasrwydd ar gyfer y diben a fwriadwyd a’r defnydd priodol o’r deunyddiau
- Rheoli datblygiad dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan ddefnyddio’r Sgema Dylunio, ffynonellau ysbrydoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd, tra’n ystyried gofynion y cleient
- Datblygu a chymhwyso cysylltiad lliw a symboliaeth mewn dyluniadau priodol
- Datblygu a dylunio cyfeiriadau meistrolaeth, syniadau, lliwiau, cyfansoddiadau a thechnegau
- Datblygu eich arddull dylunio eich hun gan ganolbwyntio ar ysbrydoliaeth, technegau a dulliau
- Ymchwilio, gweithredu a gwerthuso’r defnydd o dueddiadau presennol yn y busnes blodeuwriaeth
- Creu dyluniadau blodau a phlanhigion gan gyfeirio at gyfnodau dylunio hanesyddol a deunyddiau planhigion yn ymwneud â’r cyfnod hwnnw o hanes
- Datblygu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a chleientiaid corfforaethol gan weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r busnes blodeuwriaeth
- Cadarnhau bod cynlluniau a dyfynbrisiau/amcangyfrifon wedi cael eu cyfleu i’r cwsmer a bod unrhyw adborth wedi cael ei weithredu
- Rheoli’r gwaith o gael gafael ar ddeunyddiau i fodloni anghenion y busnes blodeuwriaeth
- Rheoli’r gwaith o greu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan sicrhau cymhwyso Elfennau ac Egwyddorion dylunio perthnasol
- Cadarnhau bod y deunyddiau botanegol ffres yn cael eu trin mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Cadarnhau bod y dyluniad blodau a phlanhigion datblygedig yn cael eu gwerthuso’n feirniadol gan gyfeirio at hyfywedd masnachol a chrefftwaith
- Ymchwilio, gweithredu a gwerthuso technegau lapio a chyflwyno newydd ar gyfer dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig
- Rheoli, monitro a gwerthuso polisïau rheoli gwastraff, gan sicrhau bod ymarfer cynaliadwy yn amlwg
- Gwneud yr holl waith yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddehongli archebion cwsmeriaid/cleientiaid yn unol â gofynion cwsmeriaid, gallai hyn gynnwys briff y cwsmer, cyllideb/cost, diben, amser ar gyfer creu ac unrhyw broblemau posibl a allai godi
- Sut i sicrhau bod yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) gofynnol wedi cael eu dethol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel
- Sut i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau hyfforddiant ar gyfer yr holl bersonél sydd yn gysylltiedig â chynllunio dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig
- Sut i greu brasluniau datblygedig a chynlluniau wedi’u labelu lle bo angen, i ddangos cysyniadau fydd yn cael eu defnyddio i fodloni anghenion y cleientiaid
- Pwysigrwydd dylunio dyluniad blodau a phlanhigion datblygedig sydd yn ystyried yr addasrwydd ar gyfer y diben a fwriadwyd a defnydd priodol o ddeunyddiau
- Sut i ddatblygu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan ddefnyddio’r Sgema Dylunio, ffynonellau ysbrydoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd, tra’n ystyried gofynion y cleient
- Sut i ddatblygu a chymhwyso cysylltiad lliw a symboliaeth yn y dyluniad priodol
- Sut i ddatblygu eich arddull dylunio eich hun ar gyfer dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig
- Sut i ymchwilio, gweithredu a gwerthuso’r defnydd o dueddiadau presennol yn y busnes blodeuwriaeth
- Hanes dylunio blodau yng nghyd-destun cyfnodau a’u nodweddion penodol a sut maent yn llywio arddulliau ac arferion dylunio presennol
- Y gwahaniaeth rhwng cynrychioli dyluniad yn hanesyddol gywir a dyluniadau dehongliadol
- Sut i reoli datblygiad cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a chleientiaid corfforaethol sydd yn gweithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r busnes
- Sut i sicrhau bod cynlluniau a dyfynbrisiau/amcangyfrifon wedi eu cyfathrebu’n gywir i’r cwsmer a bod unrhyw adborth wedi cael ei weithredu
- Sut i reoli’r gwaith o gael gafael ar deunyddiau sydd yn bodloni anghenion y busnes blodeuwriaeth
- Sut i greu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan gymhwyso Egwyddorion ac Elfennau perthnasol dylunio
- Sut i greu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan ddefnyddio’r technegau perthnasol
- Sut i drin deunyddiau botanegol ffres mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Sut i werthuso dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig yn feirniadol gan gyfeirio at hyfywedd masnachol a chrefftwaith
- Sut i ymchwilio, gweithredu a gwerthuso technegau lapio a chyflwyno ar gyfer dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig
- Sut i reoli, monitro a gwerthuso polisïau rheoli gwastraff i sicrhau bod ymarfer cynaliadwy yn amlwg
- Pwysigrwydd cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cynllunio a chreu’r dyluniadau blodau a phlanhigion canlynol i lefel ddatblygedig, gan ddefnyddio graddfa uchel o gymhlethdod gan gymhwyso Egwyddorion ac Elfennau perthnasol dylunio:
- Dyluniadau wedi eu clymu
- Dyluniadau mewn cyfrwng/ffynhonnell ddŵr
- Dyluniadau wedi eu plannu
- Dyluniadau wedi eu gludo
- Dyluniadau wedi eu rhwymo â weiren
Creu dyluniadau blodau a phlanhigion datblygedig gan ddefnyddio’r technegau canlynol:
- Sefydlu
- Rhwymo
Dal mewn cawell
Gludo
- Grwpio
- Haenu
- Hoelio
- Plethu
- Crychu/plygu
- Rholio/cwpanu
- Troelli
- Styffylu
- Tapio
- Pwytho
- Clymu a rhwymo
- Rhoi dan len
- Gwehyddu
- Rhwymo â weiren
- Lapio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunydd Botanegol ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull enwi: Y ffordd y caiff deunyddiau botanegol eu hadnabod gan ddefnyddio eu Genws, rhywogaethau a cyltifar/amrywiad.
Elfennau dyluniadau blodau: Lliw, Ffurf, Llinell, Gofod, Gwead
Egwyddorion dyluniad blodau: Cydbwysedd, Cyferbyniad, Uchafiaeth, Cytgord, Cyfran, Rhythm, Graddfa
Ffynonellau ysbrydoliaeth: botaneg, diwylliant, emosiwn, dyluniad, crefft/techneg, economaidd/cyllideb
Sgema Dylunio yn cynnwys:
- Categori Trefn: Cymesuredd/Anghymesuredd
- Trefniant: Addurnol/llystyfiannol/ffurf-linellol
- Trefniant Llinell Flodau: Cyfochrog/rheiddiol/llinell rydd
- Lleoliad blodau: Dwysedd/ Dosbarthiad amrywiol /Wedi eu gwasgaru ar hap / Rhes a llinellau / Grwpio
Cyfnodau Hanesyddol wedi eu rhestru: Eifftaidd, Groegaidd a Rhufeinig, Tsieina Hynafol, Canoloesol, Dadeni Eidalaidd, Ffleminaidd Iseldiraidd, Baróc, Rococo, Cyfnod Trefedigaethol America, Sioraidd, Fictoraidd, Edwardaidd ac Art Nouveau, 1920 a 1930au, Art Deco
Yn Gywir yn Hanesyddol
Yn Ddehongliadol