Cynllunio a chreu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol ar gyfer eu gwerthu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chreu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol ar gyfer eu gwerthu. Mae dyluniadau blodau amrywiol yn cynnwys dyluniadau wedi eu clymu, wedi eu rhwymo â gwifren, wedi eu gludo a dyluniadau mewn cyfrwng/ffynhonnell ddŵr. Gallant amrywio o drefniant rhaeadr/cwympo, trefniant ar raddfa fawr, dyluniad i gynnwys fframweithiau a llawer mwy.
Bydd y safon hon hefyd yn cynnwys dehongli manylebau, creu brasluniau manwl a dyfynbrisiau/amcangyfrifon, dyluniadau creu a lapio.
Wrth wneud yr holl waith dylid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.
Bydd yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau’r sefydliadol.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dehongli manylebau swydd, yn cynnwys briff cwsmer, cyllideb/cost, diben, amser ar gyfer creu ac anawsterau posibl a allai godi
- Dewis offer, cyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer creu dyluniadau blodau a phlanhigion sydd yn addas i’w gwerthu
- Creu brasluniau manwl o ddyluniadau blodau a phlanhigion arfaethedig, yn cynnwys y defnydd o ddulliau enwi botanegol, ffynonellau ysbrydoliaeth a thechnegau adeiladu
- Cynllunio dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol sydd yn rhoi cyfrif am addasrwydd at y diben a fwriadwyd ac addasrwydd/gwydnwch y deunyddiau
- Cynllunio dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol gan ddefnyddio Sgema Dylunio
- Cymhwyso cysylltiad lliw a symboliaeth o fewn dyluniadau addas
- Datblygu ymwybyddiaeth o arddulliau’r dylunwyr blodau dylanwadol, yn cynnwys ethos, ysbrydoliaeth a thechnegau/dulliau personol
- Datblygu ymwybyddiaeth o’r ffordd y gall tueddiadau, y presennol a’r gorffennol, ddylanwadu ar syniadau ac arddull dylunio person
- Ystyried ffynonellau ysbrydoliaeth wrth ddylunio dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol
- Cynnig syniadau i fodloni briffiau dylunio ar gyfer digwyddiadau bach a chleientiaid corfforaethol, gan weithio yn y cwmni yn costio polisïau a pharatoi amcangyfrifon/dyfynbrisiau
- Cyfathrebu cynlluniau, briffiau dylunio a dyfynbrisiau/amcangyfrifon gyda’r cwsmer
- Gwerthuso ac addasu’r cynllun lle bo angen i fodloni anghenion y cwsmer
- Cael gafael ar y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer creu dyluniadau amrywiol
- Creu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol gan ddefnyddio’r technegau perthnasol a chymhwyso dealltwriaeth o Egwyddor ac Elfennau Dylunio
- Trin deunyddiau botanegol ffres wrth greu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol, mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Gwerthuso dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol yn erbyn manylebau’r cwsmer a gwneud addasiadau i’r hyn sydd wedi ei greu os oes angen.
- Gwerthuso dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol gan gyfeirio at Elfennau ac Egwyddorion dylunio, ffynonellau ysbrydoliaeth a’r Sgema Dylunio
- Lapio a diogelu ystod o ddyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol ar gyfer eu cyflwyno a/neu eu cludo
- Cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol
- Monitro deunyddiau gwastraff a sicrhau eu bod yn cael eu gwaredu mewn ffordd gynaliadwy, gan ddilyn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- Gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddehongli manylebau swydd, yn cynnwys briff cwsmer, cyllideb/cost, diben, amser ar gyfer creu ac unrhyw anawsterau posibl a allai godi
- Y mathau o offer, cyfarpar a chyfarpar diogelu personol sydd yn addas ar gyfer creu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol
- Sut i greu brasluniau manwl o ddyluniadau amrywiol arfaethedig, yn cynnwys y defnydd o ddull enwi botanegol, ffynonellau ysbrydoliaeth a thechnegau creu, i gynorthwyo’r gwaith cynllunio a chyfathrebu syniadau gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a chyflenwyr
- Pwysigrwydd dylunio dyluniad blodau a phlanhigion amrywiol sydd yn addas ar gyfer y diben a fwriadwyd
- Y Sgema Dylunio a sut i’w gymhwyso i’r broses ddylunio
- Sut i gymhwyso cysylltiad lliw a symboliaeth mewn dyluniadau addas
- Arddull dylunwyr blodau dylanwadol, yn cynnwys ethos, ysbrydoliaeth a thechnegau/dulliau personol
- Y ffordd y gall tueddiadau, ystyriaethau hanesyddol a diwylliannol ddylanwadu ar syniadau ac arddull dylunio
- Sut i adnabod ffynonellau ysbrydoliaeth
- Sut i gyfrifo a pharatoi amcangyfrifon a dyfynbrisiau
- Sut i gyfathrebu, datblygu a chadarnhau cynlluniau/briff dylunio gyda’r cwmser
- Sut i werthuso, datblygu a lle bo angen, addasu’r cynllun i fodloni anghenion y cwsmer
- Sut i gael gafael ar y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer creu’r dyluniadau amrywiol
- Sut i greu dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol gan ddefnyddio’r technegau perthnasol a chymhwyso dealltwriaeth o Egwyddor ac Elfennau Dylunio
- Sut i drin deunyddiau botanegol mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Sut i werthuso dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol yn erbyn manylebau’r cwsmer a gwneud addasiadau i’r hyn sydd wedi ei greu os oes angen.
- Sut i werthuso dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol gan gyfeirio at Elfennau ac Egwyddorion dylunio, ffynonellau ysbrydoliaeth a’r Sgema Dylunio
- Sut i lapio a diogelu ystod o ddyluniadau blodau a phlanhigion ar gyfer eu cyflwyno a/neu eu cludo
- Pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol
- Sut i fonitro deunyddiau gwastraff a’u gwaredu mewn ffordd gynaliadwy, gan ddilyn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- Y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Dylunio a chreu’r canlynol gan ddefnyddio Egwyddorion ac Elfennau perthnasol dylunio
- Dyluniadau wedi eu clymu
- Dyluniadau mewn cyfrwng/ffynhonnell ddŵr
- Dyluniadau wedi eu plannu
- Dyluniadau wedi eu gludo
- Dyluniadau gwifredig
Creu dyluniadau gan ddefnyddio’r technegau canlynol:
- Seilio
- Rhwymo
- Dal mewn cawell
Gludo
Grwpio
- Haenu
- Pinio
- Pla
- Pledio/plygu
- Rholio/cwpanau
- Troellog
- Styffylu
- Tapio
- Edafu
- Clymu a chlymu
- Llysiau
- Gwehyddu
- Gwifrau
- Lapio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dyluniadau blodau a phlanhigion amrywiol: trefniant rhaeadr/cwympo, trefniant fframwaith, trefniant prif fwrdd, dyluniad crog 2D/3D, trefniant ar raddfa fawr.
Deunydd Botanegol ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull enwi: Y ffordd y caiff deunyddiau botanegol eu hadnabod gan ddefnyddio eu Genws, rhywogaethau a cyltifar/amrywiad.
Elfennau dyluniadau blodau: Lliw, Ffurf, Llinell, Gofod, Gwead
Egwyddorion dyluniad blodau: Cydbwysedd, Cyferbyniad, Uchafiaeth, Cytgord, Cyfran, Rhythm, Graddfa
Ffynonellau ysbrydoliaeth: botaneg, diwylliant, emosiwn, dyluniad, crefft/techneg, economaidd/cyllideb
Sgema Dylunio yn cynnwys:
- Categori Trefn: Cymesuredd/Anghymesuredd
- Trefniant: Addurnol/llystyfiannol/ffurf-linellol
- Trefniant Llinell Flodau: Cyfochrog/rheiddiol/llinell rydd
- Lleoliad blodau: Dwysedd/ Dosbarthiad amrywiol /Wedi eu gwasgaru ar hap / Rhes a llinellau / Grwpio