Rheoli a datblygu prosesau yn ymwneud â gofal, tymheru, cylchdroi stoc, prynu a pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer deunyddiau botanegol ffres
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli a datblygu proses yn ymwneud â gofal, tymheru, cylchdroi stoc, prynu a pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer deunyddiau botanegol ffres. Gallai deunyddiau botanegol ffres gynnwys blodau, deiliach a deunyddiau llawn aeron.
Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a rheoli’r broses ar gyfer gwirio deunyddiau botanegol ffres ar gyfer plâu, clefydau, niwed neu ddirywiad, tymheru, storio a gweithredu systemau cylchdroi stoc.
Mae’r safon hon hefyd yn cynnwys prynu stoc newydd, yn unol ag anghenion busnes, gydag ystyriaeth o’r gofynion yn y dyfodol a phrotocolau gwastraff.
Wrth wneud yr holl waith dylid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Rheoli’r gwaith o ddewis a pharatoi’r offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer tymheru deunyddiau botanegol ffres
- Adnabod Genws, rhywogaeth a chyltifar wrth wirio math, nifer ac ansawdd deunyddiau botanegol ffres yn erbyn anfonebau/nodiadau dosbarthu ac adrodd am unrhyw broblemau lle bo angen wrth y cyfanwerthwr/cyflenwr
- Rheoli rhychwant oes deunyddiau botanegol ffres cyn eu cynaeafu
- Rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer ystod o ddeunyddiau botanegol er mwyn sicrhau hirhoedledd
- Rheoli, datblygu a gweithredu’r prosesau o wirio’r deunyddiau botanegol ffres am dystiolaeth o blâu, clefydau, niwed neu ddirywiad
- Cadarnhau bod dulliau perthnasol ar gyfer dadbacio deunyddiau planhigion mewn bocsys, wedi eu clystyru a gwenwynig/llidiog yn cael eu defnyddio
- Rheoli, datblygu a gweithredu’r prosesau ar gyfer gofalu am, tymheru a storio deunyddiau botanegol ffres i gynyddu gwerthadwyedd
- Rheoli’r gwaith o weithredu hyfforddiant staff ar y technegau tymheru a storio cywir a’r prosesau ar gyfer paratoi deunyddiau botanegol ffres
- Cadarnhau bod deunyddiau botanegol ffres yn cael eu trin mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Gweithredu cynllun cylchdroi a storio stoc sydd yn cynyddu rhychwant oes deunyddiau botanegol ffres ac yn cynorthwyo’r gwaith o gynllunio a phrynu stoc newydd
- Rheoli lefelau stoc mewn busnes blodeuwriaeth a chynllunio’r gwaith o brynu stoc newydd yn unol ag anghenion busnes gan ystyried gofynion yn y dyfodol a phrotocolau gwastraff
- Rheoli cydymffurfio â systemau rheoli gwastraff sefydliadol
- Cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu rheoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol
- Rheoli, datblygu a gweithredu polisïau diogelwch iechyd sefydliadol yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y mathau o offer, cyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer tymheru deunyddiau botanegol ffres
- Y defnydd o ddull enwi botanegol cywir ac enwau cyffredin deunyddiau botanegol ffres, yn cynnwys Genws, rhywogaeth a chyltifar/amrywiad
- Cadwyn gyflenwi deunyddiau botanegol ffres yn y diwydiant blodeuwriaeth
- Tymoroldeb naturiol deunyddiau botanegol a’r argaeledd masnachol cyfredol
- Rhychwant oes deunyddiau botanegol ffres ar ôl eu cynaeafu a sut mae ffactorau allanol yn gallu dylanwadu ar hyn
- Prosesau planhigion a sut maent yn llywio gofal a storio planhigion a blodau
- Dangosyddion cyffredin plâu a chlefydau a sut i reoli, datblygu a gweithredu prosesau ar gyfer ymdrin â phlâu a chlefydau
- Y dulliau gwahanol i’w defnyddio wrth ddadbacio deunyddiau mewn bocsys, wedi eu clystyru neu ddeunyddiau botanegol gwenwynig/llidiog
- Y mathau o ddeunyddiau botanegol llidiog a gwenwynig a sut dylid eu trin
- Sut i reoli, datblygu a gweithredu’r prosesau o ofalu am, tymheru a storio deunyddiau botanegol ffres mewn trefn olynol, gan roi blaenoriaeth i blanhigion yn unol â’u gofynion gofal botanegol
- Sut i reoli’r gwaith o hyfforddi staff ar dechnegau tymheru a storio cywir ar gyfer paratoi deunyddiau botanegol ffres
- Sut i sicrhau bod deunyddiau botanegol ffres yn cael eu trin mewn ffordd sydd yn lleihau gwastraff, niwed a halogiad
- Sut i reoli, datblygu a gweithredu cynllun cylchdroi stoc a storio fydd yn cynyddu rhychwant oes deunyddiau botanegol ffres
- Y mathau o systemau cylchdroi stoc ar gyfer deunyddiau botanegol ffres a sut i’w rheoli
- Sut i reoli stoc sydd yn dod i mewn a sut i godi unrhyw faterion gyda chyfanwerthwyr/cyflenwyr
- Sut i reoli’r gwaith o brynu stoc newydd yn unol â gofynion busnes
- Sut i reoli’r gwaith o waredu deunyddiau gwastraff mewn ffordd gynaliadwy, gan ddilyn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- Sut i reoli hylendid a bioddiogelwch yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- Sut i reoli, datblygu a gweithredu polisïau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Cwmpas/ystod
Rheoli’r gwaith o dymheru ystod helaeth o ddeunydd botanegol ffres:
- Deiliach
Aeron
Blodau
- Glaswellt
Rheoli’r gwaith o dymheru deunyddiau botanegol ffres ar gyfer eu dylunio neu eu gwerthu gan ddefnyddio’r cyfarpar tymheru canlynol:
- Siswrn
- Cyllyll
- Gwellau
- Bwyd blodau
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- Cynwysyddion
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunydd Botanegol Ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri.
Dull Enwi: Y ffordd y mae deunyddiau botanegol yn cael eu hadnabod gan ddefnyddio eu Genws, rhywogaeth a chyltifar/amrywiad.
Heneiddiad: Y broses o’r ffordd y mae deunydd botanegol yn aeddfedu ar ôl ei dorri.
Tymheru – Paratoi deunyddiau ffres cyn eu defnyddio er mwyn sicrhau eu bod yn cadw mor hir â phosibl
Amodau amgylcheddol: golau, lleithder, tymheredd, dŵr, maethynnau