Sefydlu gweithredoedd a gweithgareddau marchnata i gefnogi’r busnes blodeuwriaeth

URN: LANFLR10
Sectorau Busnes (Suites): Blodeuwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 12 Ebr 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys sefydlu gweithrediadau a gweithgareddau marchnata i gefnogi’r busnes blodeuwriaeth.  Bydd hyn yn cynnwys sefydlu gweithgareddau hyrwyddo a marchnata, gan sefydlu arddangosfeydd o nwyddau blodeuwriaeth a’u cynnal a’u cadw er mwyn eu marchnata yn y ffordd orau posibl, yn ogystal ag ymchwilio i dechnoleg sy’n datblygu i gefnogi gweithredu a marchnata’r busnes blodeuwriaeth. Mae’r NOS hwn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu da a’r defnydd o dechnoleg i gefnogi gweithredu a marchnata busnes blodeuwriaeth. Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Iau neu Uwch.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Arddangos technegau hyrwyddo a marchnata datblygedig, gan ddefnyddio offer hyrwyddo a marchnata perthnasol sydd ar gael i’r busnes blodeuwriaeth
  2. Sefydlu gweithgareddau hyrwyddo a marchnata o fewn canllawiau busnes blodeuwriaeth
  3. Sefydlu arddangosfeydd o nwyddau blodeuwriaeth a’u cynnal a’u cadw mewn ffordd sydd yn marchnata’r arddangosiadau yn y ffordd orau posibl, fel eu bod yn parhau’n ddeniadol, yn apelgar, ac yn ddiogel i gwsmeriaid
  4. Cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a chynnal gwaith tîm yr holl amser
  5. Nodi dylanwadau mewnol ac allanol a allai gael effaith ar weithrediadau’r busnes blodeuwriaeth a gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
  6. Ymchwilio i ddatblygiadau technolegol a allai helpu i gefnogi gweithrediadau’r busnes blodeuwriaeth a’r gweithgareddau marchnata
  7. Cefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn y tîm blodeuwriaeth i wella gweithrediadau’r busnes blodeuwriaeth a’r gweithgareddau marchnata
  8. Gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  9. Arddangos ymddygiad proffesiynol a dilyn polisïau a gweithdrefnau busnes, i gefnogi gweithrediadau’r busnes blodeuwriaeth a gweithgareddau marchnata

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y technegau hyrwyddo a marchnata perthnasol a sut i ddefnyddio offer hyrwyddo a marchnata sydd ar gael i’r busnes blodeuwriaeth
  2. Sut i sefydlu gweithgareddau hyrwyddo a marchnata o fewn canllawiau’r busnes blodeuwriaeth
  3. Sut i sefydlu arddangosfeydd nwyddau blodeuwriaeth a’u cynnal mewn ffordd sydd yn eu marchnata yn y ffordd orau posibl
  4. Y strwythurau prisio a ddefnyddir yn y busnes blodeuwriaeth
  5. Y cysyniad o elw a cholled yn y busnes blodeuwriaeth a sut gall hyn effeithio ar weithredoedd a gweithgareddau marchnata
  6. Pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  7. Sut gallai dylanwadau mewnol ac allanol effeithio ar weithrediadau’r busnes blodeuwriaeth a’r camau i’w cymryd o fewn terfynau eich awdurdod
  8. Pwysigrwydd ymchwilio i ddatblygiadau technolegol i helpu i gefnogi gweithrediadau busnes a gweithgareddau marchnata blodeuwriaeth
  9. Yr hyfforddiant sydd ar gael i gefnogi gweithrediadau busnes a marchnata blodeuwriaeth a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y tîm blodeuwriaeth
  10. Y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth cyflogaeth: Deddf Cyflogaeth, Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol, Deddf Rheoleiddio Amserau Gweithio, Deddf Cydraddoldeb, Deddf Gwerthu Nwyddau, GDPR, y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

12 Ebr 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFLR2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwerthwr Blodau Uwch

Cod SOC

7111

Geiriau Allweddol

Gwerthiannau; Blodau; planhigion; staff; gwerthwr blodau;