Llunio pedolau trwy ofannu

URN: LANFAR9
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys llunio pedolau trwy ofannu.  Er mwyn llunio pedolau, bydd angen i chi ddewis deunyddiau ac offer a
defnyddio a chynnal a chadw'r efail ar dymheredd gwaith addas.

Bydd angen i chi dorri a thrin deunyddiau yn ddiogel a gallu llunio
pedolau amrywiol gan ddefnyddio technegau gofannu ac osgoi gwastraff.

Byddwch yn gwybod sut i lunio pedolau i fanyleb ar gyfer mathau
amrywiol o geffylau.  Byddwch yn gallu gwerthuso'r bedol orffenedig yn erbyn y fanyleb a'i haddasu lle bo angen.

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau yn
unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.

Mae'r safon hon ar gyfer Pedolwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
  2. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
  3. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

  5. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes

  6. dewis, gwirio, defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar a ddefnyddir i lunio pedolau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes

  7. dewis a thorri deunydd i fodloni manyleb y bedol i gael ei llunio
  8. cynnal tân yr efail ar y tymheredd sy'n ofynnol i weithio gyda'r deunyddiau a ddewisir
  9. trin deunyddiau yn ddiogel gan ddefnyddio'r gefeiliau cywir ar gyfer y gwaith

  10. llunio parau o bedolau ar gyfer coesau ôl a blaen ar gyfer amrywiaeth o geffylau, yn cynnwys amrywiolion

  11. llunio pedolau sydd yn gytbwys ac yn wastad
  12. llunio tyllau hoelion yn y lle cywir ac ar y ffurf cywir, gyda'r trawiad cywir

  13. llunio pedolau sodlog, blwch a diogel i fodloni'r fanyleb ofynnol

  14. ffwleru i'r dyfnder a'r siâp cywir i ganiatáu gosodiad a safle da i'r hoelen, yn gysylltiedig ag adran a defnydd
  15. llunio pedolau blaen ac ôl yn yr amser penodedig er mwyn gweithio o fewn paramedrau gwaith y deunydd a ddefnyddir
  16. gwerthuso'r pedolau gorffenedig yn erbyn y fanyleb a llunio unrhyw addasiadau angenrheidiol i fodloni'r gofynion
  17. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  18. cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes

  3. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
  5. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  6. sut i adnabod stoc bar penodol
  7. sut i nodi metelau ac aloiau gwahanol
  8. nodweddion metelau/aloion pan fyddant yn oer a phan fyddant yn cael eu gweithio'n boeth
  9. sut i fesur deunyddiau er mwyn creu meintiau penodol pedol
  10. y mathau o offer gofannu, eu defnydd a sut i'w cynnal a'u cadw
  11. sut i adnabod yr offeryn cywir i lunio'r bedol yn unol â manyleb
  12. y defnydd o rannau penodol o'r einion i lunio a ffurfio metel/aloi trwy'r technegau gofannu
  13. ystod a mathau o bedolau i gael eu gwneud
  14. paramedrau gwaith y deunyddiau a ddefnyddir i wneud parau o bedolau blaen ac ôl
  15. y dulliau o glipio pedolau a phwnsio tyllau mewn pedolau
  16. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, a sut dylid gwneud hyn
  17. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai mathau o geffyl gynnwys:
  • merlen

  • heliwr

  • ceffyl gyrru

  • asyn

  • ceffyl cystadleuol
  • ceffyl gwedd
  • ceffyl rasio
  • ceffyl marchogaeth
  • mul

Math o efail pedolwr:
* tanwydd solet

  • nwy
  • trydan

Mathau o barau o bedolau:
* wedi eu ffwleru’n geugrwm
* wedi eu stampio’n blaen
* wedi eu ffwleru â llaw

Mathau o bedolau gydag amrywiolion:
* clip troed
* clip ochr
* troed wedi’i rolio
* troed gosod
* tyllau styd
* estyniadau a phedolau sawdl h.y. spafin, calcio, graddedig
* troed sgwâr
* platiau symudol
* pedolau bar


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFAR9

Galwedigaethau Perthnasol

Pedoli

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

pedol, carn, ceffyl, â phedol, pedolwr, greu