Tocio a llyfnu carnau ceffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys tocio a llyfnu carnau cefylau fel y pennir gan y cynllun gofal carnau. Mae'r tocio'n digwydd ar wyneb y carn trwy dorri a chrafu. Mae llyfnu'n digwydd trwy grafu mur dorsal (tu allan) y carn.
Er mwyn tocio a llyfnu'r carnau bydd angen i chi fynd at y ceffyl a'i drin mewn ffordd sy'n debygol o leihau straen a braw a gweithio mewn safle sy'n ddiogel ar gyfer y ceffyl ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig neu wedi'i effeithio gan eich gwaith yn cynnwys chi eich hun. Byddwch yn gweithredu ar unrhyw gyflyrau'r carn sydd yn achosi newidiadau i
gynllun gofal y carn.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.
Mae'r safon hon ar gyfer Pedolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud ag anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- paratoi, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis y dull o drin a rheoli sy'n ofynnol ar gyfer y ceffyl perthnasol a'i anghenion, er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â'r gwaith yn cynnwys chi eich hun
- mabwysiadu safle gwaith sydd yn ddiogel ar gyfer y ceffyl a chi eich hun
- tocio a llyfnu carn y ceffyl gan ddefnyddio'r offer a'r dulliau cywir yn unol â'r cynllun gofal carnau y cytunwyd arno
- ar ôl tocio a llyfnu, diwygio'r cynllun gofal carnau os oes angen
- cadarnhau bod lles y ceffyl yn cael ei gynnal trwy gydol y dasg
- cynnal iechyd a diogelwch y ceffyl a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys chi eich hun
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a diogelwch, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill yn ymwneud ag anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y math o ddillad a chyfarparu diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer tocio a llyfnu a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau ar y safle
- y dulliau gwaith diogel ar gyfer tocio a llyfnu carnau
- pwysigrwydd cydbwysedd y traed wrth docio a llyfnu
- diben tocio a llyfnu carnau ceffylau
- terfynau tocio a llyfnu diogel a pham na ddylid mynd y tu hwnt i'r rhain
- effeithiau tocio a llyfnu ar osgo a gweithredoedd y ceffyl
- sut i weithio'n ddiogel wrth docio a llyfnu carnau
- sut i roi'r cynllun gofal carnau ar waith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffactorau i'w hystyried wrth docio a llyfnu carnau ceffylau:
oed yn fras
ymddygiad
cyflwr y carnau
lles
amgylchedd
gweithgaredd y ceffyl
yn gwisgo pedolau neu heb bedolau
Gallai'r math o geffyl gynnwys:
merlen
heliwr
ceffyl gyrru
asyn
ceffyl cystadleuol
ceffyl gwedd
ceffyl rasio
ceffyl marchogaeth
mul