Llunio offer gwneud pedolau trwy ofannu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys llunio offer gwneud pedolau trwy ofannu. Mae’r offer gwneud pedolau yn cael eu cynhyrchu i fodloni manyleb offer ac mae’n rhaid iddynt fod yn addas at y diben.
Er mwyn cynhyrchu offer gwneud pedolau, bydd angen i chi ddewis deunyddiau a chynnal yr efail ar y tymheredd gwaith sydd yn addas ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud.
Bydd angen eich bod yn gallu torri deunyddiau i ffurfio’r adrannau gofynnol a byddwch yn gallu defnyddio offer a chyfarpar gofannu
amrywiol er mwyn gwneud a defnyddio offer gwneud pedolau.
Byddwch yn gallu asesu a chynnal a chadw’r offer llaw a ddefnyddir yn y weithdrefn ofannu a bydd angen i chi hefyd adnabod unrhyw namau yn yr offer ac ymdrin â nhw yn unol â hynny.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau yn
unol â'r ddeddfwriaeth, codau ymarfer a pholisïau busnes.
Mae’r safon hon ar gyfer Pedolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio’r offer, cyfarpar a’r deunyddiau gofynnol, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- pennu manylebau ar gyfer yr offer gwneud pedolau i gael eu llunio
- torri’r deunydd gofynnol i ffwrdd ar gyfer llunio’r offeryn penodol
- cynnal tân yr efail ar y tymheredd gofynnol i wneud y deunyddiau a ddewisir
- trin deunyddiau gan ddefnyddio’r offer gofynnol gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- gofannu adrannau i fodloni manyleb yr offeryn gan ddefnyddio’r technegau gofannu perthnasol
- asesu’r eitem orffenedig yn erbyn manyleb yr offeryn a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i fodloni’r fanyleb
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer pedoli a gofannu a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
sut i adnabod stoc bar penodol
sut i adnabod deunyddiau penodol a ddefnyddir i wneud offer
- nodweddion metelau pan fyddant yn oer a phan fyddant yn cael eu gweithio'n boeth
- y peryglon yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth weithio gyda metelau poeth
- sut i ddefnyddio rhanau penodol o'r einion i lunio a ffurfio metel
- y mathau o dechnegau gofannu
y technegau tymheru a chaledu
paramedrau gwaith deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer gwneud offer
- sut i ddefnyddio gefeiliau tanwydd solet, trydan a nwy
- y rhagofalon i'w cymryd wrth ddefnyddio'r efail a pham y mae'n rhaid eu cymryd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gefail: ffwrnais neu aelwyd lle mae metelau'n cael eu cynhesu neu eu taro a'u ffurfio trwy eu curo neu eu morthwylio i siâp.
Mathau o efeiliau pedolwyr:
Trydan
Tanwydd solet
Nwy
Pritchel
Ffwler
Pynshiau
Stampiau
Gefeiliau
Byffrau