Paratoi, cynnau a chynnal tân gefail
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi, cynnau a chynnal tân gefail.
Bydd angen i chi sicrhau bod y tanwydd gofynnol ar gael, a bod yr
ardal waith yn daclus. Bydd angen i chi wneud yr efail yn glir o falurion o'r deunydd blaenorol ohoni cyn cynnau'r tân a dod ag ef i'r
tymheredd gweithredol gofynnol ar gyfer y gwaith i gael ei wneud a'i gynnal ar y tymheredd hwnnw. Mae'n rhaid talu sylw i storio tanwydd, atal gollyngiadau, diogelwch corfforol rhag y tân a darparu offer diffodd tân.
Mae angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Mae’r safon hon ar gyfer Pedolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- cadarnhau bod y tanwydd gofynnol ar gael a bod digon o honno ar gyfer y dasg cyn cynnau tân yr efail
- cadarnhau bod yr ardal waith yn rhydd rhag deunyddiau fflamadwy a pheryglon eraill
- paratoi’r efail ar gyfer cynnau gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- cynnau’r tân a dod ag ef i’r tymheredd gwaith gofynnol gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- cadarnhau bod y tanwydd yn cael ei ddefnyddio’n ddarbodus trwy gydol y dasg
- cau tân yr efail i lawr gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- cynnal yr efail gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar
- y rhagofalon i'w cymryd wrth ddefnyddio'r gefail a pham y mae'n rhaid eu cymryd
- y paratoi sy'n ofynnol ar gyfer cynnau'r efail gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- sut i gynnau tân yr efail a chyflawni'r tymheredd gwaith gofynnol ar gyfer y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
- pam y mae'n bwysig cynnal tymheredd gwaith gofynnol, y tymheredd gofynnol i'w ddefnyddio a sut i bennu'r tymheredd yn y tân
pam y mae'n rhaid defnyddio'r tanwydd yn ddarbodus trwy gydol y dasg
sut i gau tân yr efail i lawr gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
sut i gynnal yr efail gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl: ceffyl neu aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod
Gefail: ffwrnais neu aelwyd lle mae deunyddiau'n cael eu cynhesu neu eu taro a'u ffurfio trwy eu curo neu eu morthwylio i siâp
Mathau o efeiliau pedolwyr:
Nwy
Trydan
Tanwydd solet