Addasu pedolau ac offer wedi eu llunio gan ddefnyddio cyfarpar weldio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys addasu pedolau ac offer wedi eu llunio gan ddefnyddio cyfarpar weldio.
Er mwyn addasu pedolau ac offer wedi eu llunio bydd angen eich bod yn gallu uno adrannau o ddefnyddiau wedi eu gofannu gyda'i gilydd gan ddefnyddio offer weldio.
Mae'n rhaid i chi asesu'r adran wedi ei gofannu yn erbyn y fanyleb
benodedig a gwneud newidiadau er mwyn cyflawni'r canlyniad gofynnol. Byddwch yn gallu adnabod ac ymdrin â mathau gwahanol o halogiad a allai fod yn bresennol wrth weldio.
Mae'n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.
Mae'r safon hon ar gyfer Pedolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholsïau'r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis, paratoi, cynnal a chadw a storio'r offer a'r cyfarpar gofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar weldio ar y safle yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- caffael a storio deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer addasu pedolau ac offer wedi eu llunio gan ddefnyddio offer weldio
- gweithio adrannau o ddeunydd i addasu pedolau ac offer wedi eu llunio yn unol â'r fanyleb ofynnol
- sicrhau bod y pedolau a'r offer wedi eu haddasu yn cydymffurfio â'r fanyleb ofynnol
- adnabod a gweithredu i gywiro unrhyw amrywiadau i'r lluniadau wedi eu haddasu yn erbyn y fanyleb ofynnol
- adnabod a rheoli halogiad wrth weldio
parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- y mathau o offer a chyfarpar weldio sy'n ofynnol i addasu pedolau a chyfarpar wedi eu llunio
- sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r offer a'r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer weldio pedolau ac offer wedi eu llunio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- y deunyddiau a defnyddir ar gyfer weldio
- y technegau weldio sylfaenol sydd eu hangen i addasu pedolau ac offer wedi eu llunio yn cynnwys gosod arwyneb caled
- pwysigrwydd awyru wrth weldio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- pwysigrwydd safle i gyflawni ansawdd weldio sy'n bodloni'r fanyleb ofynnol
- sut mae halogiad yn cael ei achosi, y mathau gwahanol o halogiad a sut i atal a thrin halogiad
- sut i gynnal a storio'r offer a'r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer weldio pedolau ac offer wedi eu llunio yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r deddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Halogiad:* * mae halogiad yn digwydd pan fydd peth dieithr, fel olew neu rwber, yn cael ei gyflwyno trwy amryfusedd i'r broses gynhyrchu. Mae trawshalogiad yn digwydd pan fydd metel o un cymhwysiad – dur carbon, er enghraifft, yn cael ei drosglwyddo'n ddamweiniol i fetel anghydnaws, fel dur gloyw.
Gall halogiad a thrawshalogiad gael effaith negyddol ar berfformiad, gwydnwch a rhychwant oes y rhan gorffenedig.
Mae'r canlynol yn fathau o halogiad:
gorchuddion wyneb
rhwd
saim
cen
gwlybaniaeth
baw cyffredinol
Gefail:* * ffwrnais neu aelwyd lle mae metelau'n cael eu cynhesu neu eu gweithio a'u ffurfio trwy eu curo neu eu morthwylio i siâp
Gosod Arwyneb Caled: proses gwaith metel lle mae deunydd mwy caled neu wydn yn cael ei osod ar fetel sylfaenol. Caiff ei weldio i'r deunydd sylfaenol, ac mae'n gyfffredinol yn mabwysiadu ffurf
electrodau arbenigol ar gyfer arc-weldio neu wialen lenwi ar gyfer arc-weldio ocsiasetylen a thyngsten nwy (TIG).