Paratoi offer weldio trydanol ar gyfer ei ddefnyddio

URN: LANFAR12
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys sut i baratoi offer weldio trydanol ar gyfer ei ddefnyddio.  Bydd angen i chi sicrhau bod yr offer a'r cysylltiadau yn ddiogel, wedi eu harchwilio a'u profi a gweithredu os nad yw'r offer yn gweithio'n gywir. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr offer yn cael ei storio mewn amgylchedd glân, sych a diogel. 

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio offer weldio trydanol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
  2. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi busnes

  4. dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer weldio trydanol yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes

  5. cadarnhau bod yr offer a'r cysylltiadau wedi eu harchwilio, eu profi ac yn barod i'w defnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
  6. gweithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau cynhyrchu a pholisi busnes pan nad yw'r offer yn gweithio fel sydd angen

  7. paratoi'r ardal waith ar gyfer y gweithgareddau weldio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes

  8. glanhau a storio'r offer a'r deunyddiau weldio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
  9. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich  cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer weldio trydanol sydd ar gael a sut i'w cynnal a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
  4. sut i gadarnhau bod yr offer a'r cysylltiadau yn ddiogel ar gyfer eu defnyddio, wedi eu harchwilio a'u profi yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
  5. sut i baratoi offer weldio trydanol ar gyfer ei ddefnyddio
  6. pwysigrwydd mathau gwahanol o electrodau a ddefnyddir mewn weldio trydanol gan ystyried cydweddoldeb a deunyddiau nad ydynt yn cydweddu a dysgu i adnabod y mathau gwahanol
  7. pwysigrwydd peidio defnyddio offer weldio nad yw'n gweithio'n iawn a'r camau i'w cymryd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd a pholisi busnes
  8. sut i adnabod y mathau gwahanol o wydr hidlo a phryd i'w defnyddio
  9. pwysigrwydd awyru wrth weldio
  10. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, a sut dylid gwneud hyn
  11. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Camau i'w cymryd pan nad yw offer weldio yn gweithio'n iawn:

  • adrodd

  • cofnodi

  • unioni

Gofynion storio ar gyfer offer weldio:

  • glân

  • sych

  • tymheredd wedi ei reoleiddio

Y mathau o offer weldio:

  • nwyon anadweithiol metel (MIG)

  • arc fetel llaw


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFAR12

Galwedigaethau Perthnasol

Pedoli, Crefftau Medrus Amaethyddol a Garddwriaethol, Gof

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

metel, pedolwr, weldio, gwydr hidlo