Gosod pedolau a gorffen y broses bedoli
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gosod pedolau a gorffen y broses bedoli. Bydd angen i chi asesu gofynion gofal carnau y ceffyl, ac er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi fynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sy’n lleihau straen a braw, gan weithio mewn safle sy’n ddiogel i’r ceffyl a phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, yn cynnwys chi eich hun.
Byddwch yn dewis yr offer pedoli ar gyfer y dasg ac yn gosod y pedolau yn ddiogel ac yn y safle cywir. Bydd angen i chi adolygu eich gwaith a hysbysu’r person cyfrifol ynghylch unrhyw ofynion gofal carnau. Fel y nodwyd yn y cynllun gofal carnau, bydd angen i chi allu osod pedolau ar gyfer gwahanol fathau o geffylau. Bydd angen i chi osod, a gorffen pedolau wedi'u cynhyrchu a phedolau rydych chi wedi'u gwneud eich hunan
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth
iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un â chyfrifoldeb am y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr neu was stabl.
Mae’r safon hon ar gyfer Pedolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer yn ymwneud ag anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis y dull o drin a rheoli ar gyfer y ceffyl perthnasol er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys chi eich hun
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- dewis, paratoi, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol, yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir i osod pedolau a gorffen y broses bedoli yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
- gosod y bedol gan ddefnyddio'r dull gofynnol yn unol â'r math o bedol ac fel y pennir gan y cynllun gofal carnau
- gorffen y carn yn unol â manyleb y bedol a'r cynllun gofal carnau
- cael y ceffyl i drotian i gadarnhau ei gadernid er mwyn sicrhau bod y gosodiad yn bodloni gofynion y cynllun gofal carnau
- gwerthuso'r gwaith gorffenedig a lles y ceffyl
- hysbysu'r person cyfrifol ynghylch y camau a gymerwyd a chynghori ynghylch gofynion gofal carnau yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau eraill sy'n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
y dulliau o drin a rheoli ceffylau er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl, a phawb sy'n gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys chi eich hun
y dulliau o osod pedolau a sut i orffen y broses bedoli
- sut i ddewis a defnyddio'r offer cywir ar gyfer gosod a gorffen pedolau
- yr ystod o hoelion sydd ar gael ar gyfer gosod pedolau a sut i ddewis yr hoelion gofynnol ar gyfer y carn
- y defnydd o weldiau, pinnau a phlygiau a stydiau ar gyfer gosod pedolau
- y drefn hoelio a safle'r hoelion wrth osod pedolau
- sut i ddewis offer a hoelion sydd yn addas ar gyfer cysylltu a gwasgu pedolau, technegau gwasgu a'r rhesymau dros wasgu
- sut y gall gwres effeithio ar les y ceffyl yn ystod y broses osod
- sut i adnabod symptomau pedolau wedi eu gosod yn anghywir
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffactorau i'w hystyried wrth osod pedolau:
Lleoliad hoelion
Lleoliad pedol
Ansawdd y gwaith terfynol
Math o osodiad (gosodiad perimedr/clip)
Trefn hoelio
Gofynion y ceffyl
Defnydd o lud
Morthwyl
Pinsiyrnau
Gefeiliau gwasgu
Rhigolwr gwasgu
Rhathell orffen
Safle carnau
- Blwch tywod/uned sandio