Gosod pedolau

URN: LANFAR10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Pedolwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys gosod pedolau fel y pennir yn y cynllun gofal carnau. Diben pedoli ceffyl yw ar gyfer amddiffyn, cywiro a gafael. Bydd angen gallu pedoli amrywiaeth o garnau.

Er mwyn asesu gofynion gofal carnau’r ceffyl, bydd angen i chi fynd at y ceffyl a’i drin mewn ffordd sydd yn lleihau straen a braw, gan weithio mewn safle sydd yn ddiogel i’r ceffyl, a’r rheiny sydd yn
gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys chi eich hun.

Bydd angen i chi ddewis, meintioli a ffurfio’r math cywir o bedolau ac yna’u gosod gan wneud yr addasiadau angenrheidiol i’w gosod yn derfynol. Bydd angen gallu gosod pedolau wedi eu cynhyrchu o stoc, a gosod pedolau sylfaenol yr ydych wedi eu llunio ar gyfer ceffyl penodol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.

Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sy’n gyfrifol am y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu ymarferydd gofal
carnau.

Mae’r safon hon ar gyfer Pedolwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol yn ymwneud ag anifeliaid ac iechyd a lles anifeiliaid
  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
  4. dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  6. dewis, paratoi, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth y cynhyrchydd ac arferion busnes
  7. defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir i osod pedolau
  8. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
  9. dewis y dull o drin a rheoli sy'n ofynnol ar gyfer y ceffyl perthnasol a'i anghenion, er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â'r gwaith yn cynnwys chi eich hun
  10. mabwysiadu safle gwaith sydd yn ddiogel i'r ceffyl a chi eich hun
  11. dewis pedolau o'r math, deunydd a maint cywir yn unol â'r cynllun gofal carnau
  12. gosod y bedol gan ddefnyddio'r dull gofynnol yn unol a'r math o bedol ac yn y safle cywir fel y pennir gan y cynllun gofal carnau
  13. ffurfio pedolau a ddewisir fel y pennir gan y cynllun gofal carnau
  14. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  15. cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a'u cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy'n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
  4. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r rhain
  6. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
  7. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchydd ac arferion busnes
  8. y dulliau o drin a rheoli ceffylau er mwyn lleihau'r risg i'r ceffyl, a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn cynnwys chi eich hun
  9. y dulliau mesur ar gyfer gosod pedolau
  10. y technegau a ddefnyddir i newid siâp pedol
  11. paramedrau gwaith y deunyddiau a ddefnyddir i wneud pedolau
  12. y mathau o bedolau a'u defnydd
  13. y nodweddion ategol sydd wedi eu hymgorffori mewn pedolau a'u defnydd
  14. nodweddion deunyddiau pedolau a'u tymheredd gwaith cywir
  15. tymheredd cywir y bedol wrth osod
  16. sut i adnabod symptomau pedolau wedi eu gosod yn anghywir
  17. y mathau o ddeunyddiau modern, eu defnydd a'u gosodiad diogel
  18. pryd a pham y dylid gosod pedolau yn oer
  19. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  20. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ceffyl: ceffyl neu aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.

Gallai'r mathau o geffyl a all fod angen ei bedoli gynnwys:

* Merlen * Ceffyl cystadleuol * Heliwr * Asyn * Ceffyl gyrru * Ceffyl gwedd * Ceffyl rasio * Ceffyl marchogaeth * Mul
**Mathau o bedolau wedi eu cynhyrchu/llunio:**

Gall y rhain fod fel a ganlyn:

  • ceugrwm

  • stamp plaen

  • ffwleru gwastad

  • Metel/aloi

  • Rwber

  • Plastig

  • Deunydd modern

  • Padiau lledr

  • Alwminiwm

Gall y rhain fod:

  • Â phedol
  • Wedi eu gludio

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFAR10

Galwedigaethau Perthnasol

Pedoli

Cod SOC

5211

Geiriau Allweddol

ceffyl, pedol, â phedol, carn, pedolwr, bioddiogelwch, hylendid