Gyrru tîm o bedwar ceffyl harnais ar gyfer eu hymarfer a’u hyfforddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru timau o bedwar ceffyl harnais ar gyfer eu hymarfer a'u hyfforddi. Mae'n cynnwys gallu dewis ceffylau o dîm yn unol â'u ffitrwydd, eu profiad a'u gallu i gydweithio.
Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â safle ceffylau unigol yn y tîm. Byddwch yn gallu dewis a gosod harnais ar gyfer ystod o waith arbenigol, a dewis o ystod o gerbydau addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau.
Byddwch yn deall sut i osod ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau.
Mae'r safon yn cynnwys gallu cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais tra'n paratoi ceffylau i gael eu gyrru, gosod offer arnynt/eu cymryd allan a thra'n gyrru.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y diben o ddefnyddio'r tîm o bedwar o geffylau
- sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- dewis y ceffylau unigol sydd yn addas ar gyfer y gwaith tîm a fwriadwyd
- dewis ceffylau sy'n ategu ei gilydd wrth yrru fel tîm o bedwar
- asesu natur ceffylau unigol a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer ystod o ddibenion cyffredinol
- pennu safle ceffylau unigol mewn tîm o bedwar, yn unol â'u rhinweddau unigol
- dewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sydd yn addas at y diben
- dewis yr harnais a'i osod ar geffylau unigol
- gosod ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau
- cynnal gwiriadau cyn gyrru fel mater o drefn ar geffylau, harnais a cherbydau
- gyrru tîm o bedwar ceffyl harnais ar gyfer eu hymarfer a'u hyfforddi
- bod yn gyfrifol am ofalu am y ceffylau ar ôl eu defnyddio
- bod yn gyfrifol am lanhau, cynnal a chadw a storio'r harnais a'r cerbyd ar ôl ei ddefnyddio
- cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais er mwyn cynorthwyo'r gwaith o gynnal diogelwch a lles y tîm o bedwar ceffyl tra'n cael eu gyrru
- gyrru tîm o bedwar ceffyl harnais yn unol â gofynion deddfwriaethol a chodau ymarfer perthnasol, gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
- monitro ymddygiad y ceffylau tra'n gyrru, a gweithredu'n gadarnhaol i leihau straen a chynnal eu lles
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru timau o bedwar ceffyl ar gyfer eu hymarfer a'u hyfforddi
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau unigol addas ar gyfer y tîm
- y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau i gydweithio fel rhan o dîm o bedwar
- sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith tîm
- sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
- y meini prawf ar gyfer pennu safle pob ceffyl mewn tîm o bedwar
- sut i osod, sefydlu ac addasu harnais er mwyn cael y perfformiad gorau posibl
- sut i ddewis cerbydau addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau
- sut i fonitro ceffylau unigol tra'n gyrru fel tîm o bedwar
- sut i werthuso effeithiolrwydd tîm o bedwar fel cyfanrwydd tra'n gyrru
- sut i leihau straen a sut i hybu lles ceffylau'n gadarnhaol tra'n gyrru
- sut i gyfeirio'r criw o weision ceffylau harnais er mwyn cynorthwyo'r gwaith o gadw rheolaeth yn effeithiol, a diogelwch a lles y ceffylau tra'n gyrru
- y gofynion deddfwriaethol a'r codau ymarfer yn ymwneud â gyrru ceffylau ar y briffordd gyhoeddus
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
- sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yn ystod y gweithgaredd hwn