Gyrru ceffylau i offer troi allan, cerbydau a theclynnau arbenigol

URN: LANEq505
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru ceffylau i offer troi allan, cerbydau a theclynnau arbenigol. Mae’n cynnwys gallu dewis ceffylau yn unol â’u ffitrwydd, eu profiad a’u gallu i gydweithio. Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â safle ceffylau unigol. Byddwch yn gallu dewis a gosod harneisiau ar gyfer amrywiaeth o waith arbenigol, a dewis o ystod o gerbydau a theclynnau addas sy’n cael eu tynnu gan geffylau.

Mae’r safon yn cynnwys gallu cyfeirio gweithgareddau’r criw o weision ceffylau harnais tra’n paratoi’r ceffylau i gael eu gyrru, gosod/cymryd allan a thra’n gyrru.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod dibenion defnyddio'r offer troi allan arbenigol
  2. sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. dewis ceffylau unigol sydd yn addas ar gyfer y gwaith arbenigol a fwriadwyd
  4. dewis ceffylau sy'n ategu ei gilydd wrth yrru fel offeryn troi allan arbenigol
  5. asesu natur ceffylau unigol, a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd arbenigol
  6. pennu safle ceffylau unigol o fewn offer troi allan arbenigol, yn unol â'u rhinweddau unigol
  7. dewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sydd yn addas at y diben
  8. dewis yr harnais a'i osod ar geffylau unigol
  9. sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau
  10. gwneud gwiriadau cyn gyrru fel mater o drefn ar geffylau, harnais a cherbydau
  11. bod yn gyfrifol am ofal y ceffylau ar ôl eu defnyddio
  12. bod yn gyfrifol am lanhau, cynnal a chadw a storio'r harnais a'r cerbyd ar ôl eu defnyddio
  13. cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais i gynorthwyo'r gwaith o gynnal diogelwch a lles yr offer troi allan arbenigol tra'n cael eu gyrru
  14. gyrru offer troi allan arbenigol yn unol â gofynion deddfwriaethol a chodau ymarfer perthnasol, gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
  15. monitro ymddygiad ceffylau tra'n gyrru, a gweithredu'n gadarnhaol i leihau straen a chynnal eu lles
  16. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  17. asesu'r peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru offer troi allan, cerbydau a theclynnau arbenigol
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau unigol addas ar gyfer offer troi allan arbenigol
  4. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau i gydweithio fel rhan o offer troi allan arbenigol
  5. sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith arbenigol
  6. sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
  7. y meini prawf ar gyfer pennu safle pob ceffyl o fewn offer troi allan arbenigol
  8. sut i osod, sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau
  9. sut i ddewis cerbydau addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  10. sut i fonitro ceffylau unigol tra'n gyrru fel offer troi allan arbenigol
  11. sut i werthuso effeithiolrwydd offer troi allan arbenigol fel cyfanrwydd tra'n gyrru
  12. sut i leihau straen a sut i hybu lles ceffylau yn gadarnhaol tra'n gyrru
  13. sut i gyfeirio'r criw o weision ceffylau harnais i gynorthwyo'r gwaith o gadw rheolaeth yn effeithiol, a diogelwch a lles ceffylau tra'n gyrru
  14. y gofynion deddfwriaethol a'r codau ymarfer yn ymwneud â gyrru ceffylau ar y briffordd gyhoeddus
  15. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  16. sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yn ystod y gweithgaredd hwn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq505

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cerbyd; harnais; ceffyl; troi allan; cerbydau; teclynnau