Gyrru ceffylau at ddibenion arbenigol

URN: LANEq504
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru ceffylau at ddibenion arbenigol.

Mae'n cynnwys gallu dewis ceffylau ar gyfer gwaith arbenigol yn unol â'u gallu corfforol a'u ffitrwydd, natur, profiad ac ymddangosiad. Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â safle ceffylau unigol mewn lliaws, a chyflwyno ceffylau newydd i liaws.

Byddwch yn deall sut i sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod y dibenion arbenigol y bydd y ceffylau'n cael eu defnyddio ar eu cyfer
  2. sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. dewis ceffylau sydd yn addas ac yn ategu ei gilydd ar gyfer y diben arbenigol a fwriadwyd
  4. asesu natur ceffylau unigol, a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer ystod o ddibenion cyffredinol
  5. pennu safle ceffylau unigol o fewn lliaws yn unol â'u rhinweddau unigol
  6. dewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sydd yn addas at y diben arbenigol
  7. dewis a gosod harneisiau ar geffylau unigol
  8. gwneud gwiriadau cyn gyrru fel mater o drefn ar geffylau, harneisiau a cherbydau
  9. ymdrin â'r ffrwynau'n gywir ar gyfer y defnydd arbenigol
  10. bod yn gyfrifol am ofalu am y ceffylau ar ôl eu defnyddio
  11. bod yn gyfrifol am lanhau, cynnal a chadw a storio'r harnais a'r cerbyd ar ôl eu defnyddio
  12. cyfeirio gweithgareddau'r criw o Weision Ceffylau Harnais i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal a chadw diogelwch a lles y ceffylau tra'n cael eu gyrru
  13. gyrru ceffylau at ddibenion arbenigol yn unol â gofynion deddfwriaethol a chodau ymarfer perthnasol, gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
  14. monitro ymddygiad y ceffylau tra'n gyrru, a gweithredu'n gadarnhaol i leihau straen a chynnal eu lles
  15. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  16. asesu'r peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru ceffylau at ddibenion arbenigol
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau unigol addas ar gyfer y diben arbenigol
  4. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau i weithio gyda'i gilydd fel rhan o liaws
  5. sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith arbenigol
  6. sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
  7. y meini prawf ar gyfer pennu safle pob ceffyl o fewn lliaws
  8. sut i osod, sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau
  9. sut i sefydlu ac addasu tandemau ac ungyrn
  10. sut i ddewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau arbenigol addas
  11. sut i fonitro ceffylau unigol tra'n gyrru fel lliaws
  12. sut i drin y ffrwynau'n gywir mewn perthynas â'r diben arbenigol
  13. sut i werthuso effeithiolrwydd lliaws fel cyfanrwydd tra'n gyrru
  14. sut i leihau straen a sut i hybu lles ceffylau tra'n gyrru
  15. sut i gyfeirio'r criw o Weision Ceffylau Harnais i gynorthwyo'n effeithiol i gadw rheolaeth, a diogelwch a lles y ceffylau tra'n gyrru
  16. y peryglon sy'n gysylltiedig â thandemau ac ungyrn
  17. y gofynion deddfwriaethol a'r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud â gyrru ceffylau ar y briffordd gyhoeddus at ddibenion arbenigol
  18. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  19. sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yn ystod y gweithgaredd hwn

Cwmpas/ystod

​Dewis lliaws o geffylau sy'n ategu ei gilydd wrth yrru, o ran:

  • ffitrwydd a gallu
  • taldra a hyd camau
  • profiad, hyfforddiant a natur
  • ymddangosiad
  • addasrwydd ar gyfer cydweithio

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq504

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; gyrru; arbenigol