Asesu ceffylau harnais ar gyfer defnydd parhaus mewn harnais

URN: LANEq503
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu asesu ceffylau harnais ar gyfer defnydd parhaus mewn harnais. Gallai hyn fod yn dilyn damwain, digwyddiad, anaf neu salwch.  Mae'n cynnwys gallu pennu ymddygiad a lefel hyfforddiant ceffylau, a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer cael eu hailhyfforddi i barhau i weithio mewn harnais.

Mae'r safon yn cynnwys gallu asesu ceffylau harnais ar gyfer defnydd yn y dyfodol neu hyfforddiant ar gyfer eu defnyddio at ddibenion yswiriant a thystion cyfreithiol/arbenigol.

Mae hefyd yn cynnwys asesu ceffylau achosion lles ar gyfer addasrwydd i hyfforddi ar gyfer harnais.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​egluro'r rheswm dros gynnal asesiad o'r ceffyl harnais ar gyfer ei ddefnydd parhaus mewn harnais
  2. dyfeisio dulliau o asesu ymddygiad presennol y ceffyl yn ddiogel ac yn waraidd
  3. asesu'r ceffyl o ran ei addasrwydd ar gyfer parhau i weithio mewn harnais
  4. gwerthuso'r ceffyl at ddibenion yswiriant a thystion cyfreithiol/arbenigol
  5. adrodd ar addasrwydd y ceffyl ar gyfer hyfforddiant adsefydlu
  6. asesu peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn asesu'r ceffyl harnais am ei addasrwydd ar gyfer parhau i'w ddefnyddio mewn harnais
  2. pwysigrwydd egluro'r rheswm pam y mae angen asesu'r ceffyl, ac amgylchiadau unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad yn cynnwys y ceffyl
  3. effaith ymddygiad a natur y ceffyl ar barhau i'w ddefnyddio yn yr harnais
  4. y meini prawf fydd yn pennu a yw'r ceffyl yn addas ar gyfer hyfforddiant adsefydlu
  5. dulliau diogel, gwaraidd ac effeithiol o bennu ymddygiad a natur y ceffyl
  6. sut i bennu a bodloni targedau gwerthuso
  7. sut i ysgrifennu adroddiad ar addasrwydd y ceffyl ar gyfer hyfforddiant adsefydlu
  8. sut i baratoi adroddiad at ddibenion yswiriant a thystion cyfreithiol/arbenigol
  9. sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, trwy gydol y gweithgaredd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq503

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; busnes; harnais