Gyrru timau o bedwar ceffyl at ddibenion cyffredinol

URN: LANEq502
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru timau o bedwar ceffyl at ddibenion cyffredinol. Mae'n cynnwys gallu dewis ceffylau ar gyfer gwaith cyffredinol yn unol â'u gallu a'u ffitrwydd corfforol, eu natur, eu profiad a'u hymddangosiad.  Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â safle ceffylau unigol yn y tîm, a chyflwyno ceffylau newydd i'r tîm.  Byddwch yn gallu dewis a gosod harnais ar gyfer ystod o waith arbenigol, a dewis o ystod o gerbydau addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau. Byddwch yn deall sut i osod ac addasu harnais er mwyn cael y perfformiad gorau.

Mae'r safon hon yn cynnwys gallu cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais tra'n paratoi ceffylau i gael eu gyrru, eu gosod/cymryd allan a thra'n gyrru.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill a lles y ceffylau yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod y dibenion cyffredinol ar gyfer defnyddio'r tîm o bedwar ceffyl
  2. sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. dewis ceffylau unigol sydd yn addas ar gyfer y gwaith tîm a fwriedir
  4. dewis ceffylau sydd yn ategu ei gilydd wrth yrru fel tîm o bedwar
  5. asesu natur ceffylau unigol, a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd cyffredinol
  6. pennu safle ceffylau unigol o fewn tîm o bedwar yn ôl eu rhinweddau unigol
  7. dewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau sydd yn addas ar gyfer y diben a fwriedir
  8. dewis a gosod harnais ar geffylau unigol
  9. gwneud gwiriadau cyn gyrru fel mater o drefn ar geffylau, harneisiau a cherbydau
  10. cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffylau harnais i gynorthwyo'r gwaith o gynnal diogelwch a lles y tîm o bedwar ceffyl tra'u bod yn cael eu gyrru
  11. gyrru timau o bedwar ceffyl at ddibenion cyffredinol yn unol â gofynion a chodau ymarfer deddfwriaeth berthnasol, a chan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
  12. monitro ymddygiad y ceffylau tra'n gyrru, a chymryd camau cadarnhaol i leihau straen a chynnal eu lles
  13. sicrhau gofal ceffylau ar ôl eu defnyddio
  14. sicrhau bod yr harnais a'r cerbyd yn cael eu glanhau a'u cynnal ar ôl eu defnyddio
  15. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  16. asesu'r peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru timau o bedwar ceffyl at ddibenion cyffredinol
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau unigol addas ar gyfer y tîm
  4. y meini prawf ar gyfer dewis ceffylau i gydweithio fel rhan o dîm o bedwar
  5. sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith tîm
  6. sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
  7. y meini prawf ar gyfer pennu safle pob ceffyl mewn tîm o bedwar
  8. sut i osod, sefydlu ac addasu'r harnais er mwyn cael y perfformiad gorau
  9. sut i ddewis cerbydau addas sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  10. sut i fonitro ceffylau unigol tra'n gyrru fel tîm o bedwar
  11. sut i werthuso effeithiolrwydd tîm o bedwar yn gyffredinol tra'n gyrru
  12. sut i leihau straen a sut i hybu lles ceffylau'n gadarnhaol tra'n gyrru
  13. sut i gyfeirio'r criw o weision ceffylau harnais i gynorthwyo'r gwaith o gadw rhelaeth, a diogelwch a lles y ceffylau yn effeithiol tra'n gyrru
  14. y gofynion deddfwriaethol a'r codau ymarfer yn ymwneud â gyrru ceffylau ar y briffordd gyhoeddus
  15. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  16. sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yn ystod y gweithgaredd hwn

Cwmpas/ystod

​Dewis ceffylau yn unol â ffitrwydd:

  • ffitrwydd a gallu
  • taldra a hyd camau
  • profiad, hyfforddiant a natur
  • ymddangosiad
  • addasrwydd ar gyfer cydweithio

Sefyllfaoedd:

  • cyffredinol
  • masnachol
  • ymarfer
  • hyfforddi

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq502

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; timau; gyrru