Hyfforddi ceffylau harnais i safon uwch
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hyfforddi ceffylau harnais i safon uwch.
Mae hyn yn cynnwys hyfforddi ceffylau harnais i safon uchel iawn ar gyfer gwaith arbenigol, a allai gynnwys digwyddiadau a gorymdeithiau seremonïol, arddangosiadau gyrru, digwyddiadau cyhoeddus proffil uchel, ac ati.
Byddwch yn gallu hyfforddi ceffylau harnais i safon uchel iawn i weithio fel ceffylau harnais profformiad uchel.
Mae'r safon yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol o ymddygiad ceffylau, a'r gallu i ddyfeisio a gweithredu dulliau hyfforddi sydd yn waraidd ac yn effeithiol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod diben hyfforddi ceffylau harnais
- sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- asesu'r ceffylau am eu haddasrwydd at y diben a fwriedir
- gwerthuso ymatebion ceffylau unigol i waith ceffylau harnais arbenigol, proffil uchel
- dyfeisio dulliau gwaraidd ac effeithiol o hyfforddi sy'n lleihau straen yn ystod yr hyfforddiant
- gweithredu rhaglen hyfforddi sydd wedi ei dylunio i hyfforddi ceffylau i safon uwch ar gyfer y diben a fwriedir
- dewis Gyrrwr Ceffyl Harnais a chriw o weision i weithio gyda'r ceffylau
- hyfforddi ac ymarfer y ceffylau a'r criw ar gyfer y defnydd arbenigol a fwriedir
- gwerthuso effeitholrwydd y rhaglen hyfforddiant
- sicrhau bod y cofnodion hyfforddiant priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth hyfforddi ceffylau harnais i safon uwch ar gyfer gwaith proffil uchel, arbenigol
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- ymddygiad a natur y ceffyl mewn perthynas â dylanwadau allanol
- sut i bennu'r meini prawf ar gyfer dewis ceffylau ar gyfer gwaith arbenigol
- sut i ddyfeisio a gweithredu dulliau hyfforddiant gwaraidd ac effeithiol
- sut i ffurfio cyfuniadau o geffylau ar gyfer gwaith arbenigol
- sut i weithio gyda'r gyrrwr a'r criw o Weision Ceffylau Harnais tra'n hyfforddi'r ceffylau
- sut i bennu a bodloni targedau hyfforddiant
- sut i ymarfer ceffylau a chriw ar gyfer gwaith arbenigol
- sut i werthuso effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddiant
- sut i addasu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer gwaith arbenigol gwahanol
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion hyfforddiant
- sut i sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yn ystod y gweithgaredd hwn
Cwmpas/ystod
Dylanwadau allanol:
- sŵn anarferol ac eithafol
- agosatrwydd torfeydd mawr
- gwrthrychau a gweithgareddau anarferol
- gweithio'n gyflym a/neu o dan bwysau
- gweithio mewn ardaloedd anarferol