Hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais

URN: LANEq423
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais.

Mae'n cynnwys deall ymddygiad y ceffyl a gallu asesu ceffylau am eu haddasrwydd ar gyfer amrywiaeth o waith ceffyl harnais, yn cynnwys gyrru hamdden, gyrru cystadleuol, gwaith masnachol, a gwaith amaethyddol ac ar y tir.

Mae'n cynnwys gallu datblygu a gweithredu cynlluniau hyfforddiant ar gyfer ceffylau unigol, a monitro effeithiolrwydd y cynlluniau hyfforddiant.  Mae'n cynnwys gallu gweithio gydag eraill a'u goruchwylio.

Bydd y ceffylau sy'n cael eu hyfforddi yn amrywio o geffylau ifanc, dibrofiad, i geffylau marchogaeth aeddfed a phrofiadol, sy'n cael eu hyfforddi i gael eu gyrru mewn harnais, yn ogystal â gweithio fel rhan o liaws, a cheffylau lluosog i weithio fel unigolion. Gall gynnwys hyfforddiant arbenigol ar gyfer ceffylau trwm i weithio gyda chyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau.

Mae'r safon hefyd yn cynnwys hyfforddi ceffylau harnais profiadol ar gyfer amrywiaeth o waith masnachol, yn cynnwys priodasau, angladdau a chario teithwyr, a hyfforddiant ar gyfer gwaith masnachol. Mae'r safon yn cynnwys hyfforddi ceffylau gyrru at ddiben cyffredinol a'u gwerthu, a hefyd ar gyfer gofynion penodol cleientiaid.

Gofynion:

  • gyrru at ddiben cyffredinol ac ailwerthu
  • arddangos a gyrru cystadleuol
  • gwaith masnachol
  • gwaith amaethyddol ac ar y tir
  • cwmni gyda cheffylau eraill
  • agosatrwydd at dorfeydd a gwylwyr
  • defnydd masnachol arbenigol.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. asesu'r ceffylau am eu haddasrwydd i gael eu hyfforddi i weithio mewn harnais
  3. datblygu a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau unigol, i fodloni ystod o ofynion
  4. cynnal hyfforddiant ceffylau i weithio mewn harnais
  5. cyflwyno ceffylau i gymhorthion llais, swn y tu ôl iddynt, traffig ac ati.
  6. cyflwyno ceffylau i harnais, tynnu pwysau a cherbydau/cyfarpar
  7. hyfforddi ceffylau i gael eu gyrru at ddibenion penodol a/neu mewn sefyllfaoedd penodol
  8. hyfforddi ceffylau yn unol â gofynion y cleient
  9. defnyddio dulliau hyfforddiant gwaraidd ac effeithiol
  10. briffio a defnyddio cynorthwywyr yn briodol
  11. sicrhau bod cofnodion hyfforddiant priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  12. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn hyfforddi ceffylau i weithio mewn harnais
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. egwyddorion hyforddi ceffylau i weithio mewn harnais
  4. seicoleg ac ymddygiad ceffylau a sut y mae hyn yn effeithio ar hyfforddiant
  5. sut i asesu ceffylau am eu haddasrwydd i hyfforddi ar gyfer ystod o waith harnais
  6. sut i adnabod gofynion y cleient, a sut i gysylltu'r rhain â hyfforddiant y ceffyl
  7. ystod o ddulliau hyfforddiant gwaraidd, diogel ac effeithiol
  8. sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau hyfforddiant ar gyfer ceffylau unigol
  9. sut i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun hyfforddiant
  10. sut i fonitro a lleihau straen ar y ceffyl yn ystod hyfforddiant
  11. sut i hyfforddi ceffylau ar gyfer gofynion masnachol arbenigol
  12. sut i hyfforddi ceffylau i weithio gyda chyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau
  13. sut i weithio gyda chynorthwywyr sy'n gysylltiedig â hyfforddiant ceffylau a'u goruchwylio
  14. sut i ofalu am y ceffyl mewn hyfforddiant
  15. sut i gysylltu maeth, ymarfer hyfforddi nad yw'n ymwneud â gyrru, gorffwys a hamdden â'r rhaglen hyfforddi
  16. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion hyfforddiant
  17. y perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq423

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; busnes; harnais