Defnyddio ceffylau ar gyfer gwaith amaethyddol

URN: LANEq422
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defyddio ceffylau ar gyfer gwaith amaethyddol i amaethu tir a phlannu, amaethu a chynaeafu cnydau.

Byddwch yn gyfrifol am baratoi cyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau ar gyfer eu defnyddio, a chynnal a chadw a storio'r rhain ar ôl eu defnyddio.

Byddwch yn gyfrifol am baratoi ceffylau ar gyfer eu defnyddio, rheoli eu lles yn ystod gwaith, a gofalu amdanynt ar ôl eu defnyddio.  Mae'r safon yn cynnwys gwybod sut i gynnal a chadw a gweithredu cyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau yn gywir ac yn ddiogel. Mae'n cynnwys gallu goruchwylio pobl eraill sydd yn helpu i ddefnyddio ceffylau i amaethu a chynaeafu cnydau.

Mae'r safon yn cynnwys gallu symud cyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau i'r safle ar gyfer eu defnyddio, a'u symud a'u storio ar ôl eu defnyddio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis cyfarpar ac offer amaethyddol sy'n cael eu tynnu gan geffylau priodol ar gyfer y gwaith amaethyddol a fwriedir a'r ceffylau
  3. dewis harnais a cheffylau addas ar gyfer y dasg a fwriedir
  4. cynnal gwiriadau cyn defnyddio'r ceffylau fel mater o drefn er mwyn sicrhau eu bod yn ffit ar gyfer gwaith ac wedi eu hyfforddi ar gyfer y dasg a fwriedir
  5. cael cyngor ac arweiniad arbenigol lle bo angen
  6. cynnal gwiriadau cyn defnyddio'r harnais a'r cyfarpar/offer fel mater o drefn er mwyn gwirio eu haddasrwydd at y diben
  7. cysylltu'r ceffylau i'r cyfarpar/offer
  8. defnyddio'r ceffylau, cyfarpar/offer yn gywir ar gyfer y gwaith amaethyddol a fwriedir
  9. monitro lles y ceffylau yn ystod ac ar ôl gwaith, a gweithredu i hybu eu lles
  10. monitro gweithredu'r cyfarpar/offer yn ystod gwaith, a gweithredu i'w gadw mewn cyflwr gweithredol
  11. sicrhau bod y ceffyl a'r offer/cyfarpar yn cael gofal ar ôl gwaith
  12. gwerthuso effeithiolrwydd y gwaith
  13. dilyn codau ymarfer a deddfwriaeth arall yn ymwneud â'r gweithgareddau
  14. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
  15. asesu peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​beth yw eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth ddefnyddio ceffylau i amaethu a chynaeafu cnydau a rheoli tir
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i adnabod ystod o gyfarpar ac offer amaethyddol ac ar y tir sy'n cael eu tynnu gan geffylau, sydd yn addas ar gyfer ystod o dasgau
  4. effeithiau'r tywydd, y tymhorau, cyflwr y pridd, graddiant a'r mathau o gnydau ar y ceffyl, y cyfarpar a'r offer
  5. sut i ddewis cyfarpar/offer sydd yn addas ar gyfer y dasg
  6. sut i ddewis ceffylau sydd yn addas ar gyfer y dasg a'r cyfarpar/offer
  7. sut i ddewis harnais sydd yn addas ar gyfer y ceffylau, cyfarpar/offer a'r dasg
  8. sut i weithredu'r cyfarpar/offer sy'n cael ei dynnu gan geffylau yn gywir ac yn ddiogel
  9. sut i adnabod arwyddion o iechyd gwael a straen ar geffylau tra'n paratoi ar gyfer gwaith, gweithio ac yn dilyn gwaith
  10. sut i fonitro'r ceffyl tra'n gweithio
  11. y camau i ddileu neu leihau straen neu iechyd gwael yn y ceffyl
  12. ble i gael cyngor ac arweiniad priodol yn ymwneud ag iechyd a lles y ceffyl
  13. sut i adnabod arwyddion o draul neu niwed i'r harnais, cyfarpar ac offer
  14. sut i wneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn cyn, yn ystod ac ar ôl eu defnyddio
  15. sut i oruchwylio cynorthwywyr tra'n gweithio
  16. sut i baratoi'r tir, tynnu llystyfiant nas dymunir, plannu, amaethu a chynaeafu cnydau
  17. goblygiadau defnyddio ceffylau i reoli tir ac amaethu cnydau o ran yr amgylchedd, ei gynaliadwyedd, cynhyrchu cnydau arbenigol a threftadaeth a diwylliant cefn gwlad
  18. sut i waredu gwastraff yn gyfrifol
  19. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  20. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y gellir rheoli'r rhain
  21. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gwirio ceffylau am:

  • arwyddion o iechyd gwael (e.e. cloffni, clefydau, parasitiaid, plâu, anaf) neu straen
  • cyflwr traed a phedolau (os cant eu gwisgo)
  • ffitrwydd corfforol ar gyfer y dasg a fwriedir
  • natur addas ar gyfer y dasg a fwriedir

Amaethu tir i baratoi ar gyfer cnydau:

  • tynnu llystyfiant nas dymunir
  • plannu cnydau
  • rheoli cnydau tra'n tyfu
  • cynaeafu cnydau
  • rheoli tir

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq422

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; busnes; harnais