Gyrru pâr o geffylau at ddibenion masnachol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu gyrru pâr o geffylau at ddibenion masnachol. Mae'n cynnwys gallu dewis ceffylau ar gyfer gwaith masnachol yn unol â'u gallu corfforol a'u ffitrwydd, natur, profiad ac ymddygiad.
Byddwch yn gallu paru pâr o geffylau gyda'i gilydd o ran eu gallu corfforol, eu natur a'u hyfforddiant. Byddwch yn gallu dewis a gosod harnais ar gyfer ystod o ddibenion masnachol, a dewis o ystod o gerbydau addas sydd yn cael eu tynnu gan geffylau. Byddwch yn deall sut i sefydlu ac addasu'r harnais i gael y perfformiad gorau.
Mae'r safon yn cynnwys gallu cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffyl harnais tra'n paratoi ceffylau i gael eu gyrru, gosod offer arnynt/eu cymryd allan a thra'n gyrru.
Mae'r safon yn cynnwys gallu gyrru pâr o gefylau at ddibenion masnachol arbenigol, a sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi ac yn ymgyfarwyddo â gweithio mewn ystod o sefyllfaoedd masnachol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r dibenion masnachol y defnyddir y pâr o geffylau ar eu cyfer
- sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- asesu natur ceffylau unigol, a gwerthuso eu haddasrwydd ar gyfer ystod o ddibenion masnachol
- sicrhau bod ceffylau'n cael eu hyfforddi i weithio yn agos at wylwyr, torfeydd, ceffylau eraill, ac i ymdopi â ffotograffiaeth fflach, y defnydd o ddronau ac amhariadau eraill
- paru parau o geffylau am eu gallu corfforol, natur, hyfforddiant ac ymddygiad
- dewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau ar gyfer ystod o ddibenion sydd yn addas at y diben masnachol a fwriedir
- dewis a gosod harnais ar y ceffylau
- cynnal gwiriadau fel mater o drefn cyn gyrru ar geffylau, harnais a cherbydau
- cyfeirio gweithgareddau'r criw o weision ceffyl harnais i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal iechyd a lles y ceffylau, teithwyr, gwylwyr a defnyddwyr eraill y ffordd a'r ardal
- gyrru parau o geffylau at ddibenion masnachol yn unol â gofynion a chodau ymarfer deddfwriaethol ar gyfer gyrru ceffylau harnais masnachol, a chan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
- monitro ymddygiad y ceffylau tra'n gyrru, a chymryd camau cadarnhaol i leihau eu straen a chynnal eu lles
- sicrhau bod cofnodion priodol hyfforddiant yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli'r risg i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn gyrru parau o geffylau at ddibenion masnachol
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- sut i asesu ffitrwydd a gallu ceffylau unigol ar gyfer gwaith masnachol
- sut i asesu natur ac ymddygiad ceffylau unigol
- sut i hyfforddi ceffylau i weithio'n agos i wylwyr, torfeydd, ceffylau eraill, ac i ymdopi â ffotograffiaeth fflach, y defnydd o ddronau ac amhariadau eraill
- sut i ddewis ceffylau i weithio gyda'i gilydd fel pâr
- sut i bennu ar ba ochr y polyn y dylai pob ceffyl weithio
- sut i ddewis, gosod, sefydlu ac addasu'r harnais i gael y perfformiad gorau
- sut i ddewis cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau masnachol addas
- sut i fonitro ceffylau unigol wrth yrru
- sut i leihau straen a sut i hybu lles ceffylau tra'n gyrru
- sut i gyfeirio'r criw o weision ceffyl harnais i gynorthwyo'n effeithiol i gadw rheolaeth, a diogelwch a lles ceffylau a theithwyr tra'n gyrru
- sut i reoli diogelwch gwylwyr a chyfranogwyr mewn gweithgareddau masnachol tra'n gyrru
- y gofynion deddfwriaethol a chodau ymarfer yn ymwneud â gyrru parau o geffylau ar y briffordd gyhoeddus at ddibenion masnachol
- pwysigrwydd hyfforddi ceffylau i ymdopi a golygfeydd, synau ac offer anarferol a ddefnyddir gan ffotograffwyr ac eraill
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion o hyfforddiant ceffylau
- y perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut i reoli'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol