Darparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu darparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol ar gyfer ystod o weithgareddau yn cynnwys priodasau neu angladdau wedi eu tynnu gan geffylau, cario teithwyr ac arddangosfeydd.
Mae'n cynnwys gallu gyrru ceffylau at ddibenion darparu gwasanaethau masnachol, rheoli agweddau cyfreithiol darparu gwasanaethau masnachol wedi eu tynnu gan geffylau, trafod telerau ac amodau darparu gwasanaethau, a chynllunio i ddarparu gwasanaethau yn ymwneud â gofynion cwsmeriaid.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod deddfwriaeth a chodau ymarfer yn ymwneud â darparu gwasanaethau ceffyl harnais
- darparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol gyda sylw dyledus i ddeddfwriaeth, codau ymarfer a thelerau ac amodau contractau perthnasol
- cytuno ar y telerau ac amodau ar gyfer gwasanaethau ceffyl harnais masnachol gyda chleientiaid
- trafod telerau ac amodau contractau, a'r dulliau a'r ffordd o gyflenwi gyda chleientiaid
- sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â darparu gwasanaethau ceffyl harnais yn gyfreithiol ac yn unol â chodau ymarfer
- dethol a pharatoi ceffylau, harnais a cherbydau addas ar gyfer y defnydd a fwriedir
- cynllunio llwybrau gan ystyried gofynion cwsmeriaid, diogelwch a lles ceffylau
- sicrhau bod y ceffylau'n cael eu hyfforddi ar gyfer y diben a fwriedir
- gyrru ceffylau at ddibenion darparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefyldiad yr ydych yn gweithio iddo
- cynnal asesiadau risg ar lwybrau a lleoliadau
- asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn rheoli agweddau cyfreithiol darparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol
- rolau a chyfrifoldebau a dyletswyddau gofal staff wrth ddarparu gwasanaethau ceffyl harnais masnachol
- sut i ddarparu gwasanaethau ceffyl harnais i gydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- yr elfennau sydd yn creu contract rhwymol i gyflenwi gwasanaethau ceffyl harnais
- sut i drafod telerau ac amodau darparu gwasanaethau ceffyl harnais gyda chleientiaid
- sut i sicrhau bod y ffordd o gyflenwi gwasanaethau ceffyl harnais yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- yr hyn a olygir wrth dorri amodau contract
- eich dyletswydd gofal i gleientiaid, gwylwyr, cyfranogwyr ac aelodau anghysylltiedig o'r cyhoedd
- sut i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn ymwneud â deddfwriaeth, codau ymarfer a thelerau ac amodau perthnasol contractau
- sut i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn hybu a chynnal diogelwch a lles y ceffylau
- sut i ddewis a pharatoi ceffylau, harnais a cherbydau addas at y defnydd a fwriedir
- sut i sicrhau bod ceffylau'n cael eu hyfforddi at y diben a fwriedir a pham y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
- y perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol