Asesu harnais ceffylau am addasrwydd ar gyfer defnydd masnachol

URN: LANEq419
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu asesu harnais ceffylau am ei addasrwydd ar gyfer defnydd masnachol. Mae'n cynnwys gallu adnabod yr harnais mwyaf addas ar gyfer sawl math o ddefnydd penodol, a gwirio holl rannau'r harnais am draul neu niwed.

Mae'n cynnwys gallu rhoi mathau gwahanol o harnais at ei gilydd o gydrannau, a gosod yr harnais ar y ceffyl ar ôl ei gydosod.

Byddwch yn deall y defnydd cywir o fathau gwahanol o harnais a'u gallu gweithredu pennaf.

Yn cynnwys:

  • harnais unigol
  • harnais pâr
  • harnais tîm
  • harnais tandem
  • harnais uncorn
  • harnais arbenigol
  • harnais amaethyddol ac ar y tir.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod y dillad a'r offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis harnais ceffyl sy'n briodol ar gyfer y defnydd masnachol a fwriedir
  3. archwilio ac asesu'r harnais am ei addasrwydd ar gyfer defnydd masnachol
  4. cydosod setiau o harneisiau o gydrannau ar gyfer sawl math o ddefnydd
  5. gosod yr harnais ar geffylau
  6. sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  7. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pa ddillad ac offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn asesu'r harnais ceffylau o ran ei addasrwydd ar gyfer defnydd masnachol
  3. sut i adnabod a dewis harnais ar gyfer mathau gwahanol o ddefnydd masnachol
  4. sut i asesu harnais o ran ei addasrwydd ar gyfer defnydd masnachol
  5. sut i gydosod harnais yn setiau ar gyfer mathau gwahanol o ddefnydd masnachol
  6. sut i osod yr harnais ar geffylau unigol
  7. galluoedd gweithredu mathau ac arddulliau gwahanol o harnais
  8. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  9. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq419

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; harnais; masnachol