Asesu cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau am eu haddasrwydd ar gyfer defnydd masnachol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu asesu cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau am eu haddasrwydd ar gyfer defnydd masnachol. Mae'n cynnwys gallu nodi ystod o gerbydau a'u defnydd cywir, yn ogystal â nodi'r rhannau a swyddogaeth y rhannau.
Byddwch yn gallu gwerthuso paramedrau gweithredu cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau, a chanfod eu pwysau, llusgiant, clo troi, pwynt cydbwysedd a'u craidd disgyrchiant.
Mae'n cynnwys gallu cynnal arolygiad llawn o gerbydau masnachol sy'n cael eu tynnu gan geffylau sy'n gweithredu ar y briffordd gyhoeddus.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen eich bod yn gallu adnabod peryglon ac asesu risg mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau ar gyfer sawl math o ddefnydd
- cynnal profion i bennu paramedrau gweithredu cerbydau unigol
- defnyddio dulliau profi priodol i ganfod pwysau, llusgiant, clo troi, pwynt cydbwysedd a chraidd disgyrchiant y cerbyd
- cynnal archwiliad manwl o bob rhan o’r cerbyd am draul neu niwed
- asesu addasrwydd y cerbyd ar gyfer y defnydd masnachol a fwriedir
- sicrhau bod gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn yn cael ei wneud ar gerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau, cyn eu defnyddio
- atal cerbydau anaddas rhag cael eu defnyddio ar gyfer gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw proffesiynol
- cwblhau’r dogfennau gofynnol er mwyn bodloni’r codau ymarfer a’r ddeddfwriaeth berthnasol
- asesu peryglon a rheoli’r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn asesu cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau at ddefnydd masnachol
- sut i ddyfeisio profion i asesu paramedrau gweithredu cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau
- sut i ganfod pwysau, llusgiant, clo troi, pwynt cydbwysedd a chraidd disgyrchiant cerbydau unigol sy'n cael eu tynnu gan geffylau
- sut i werthuso addasrwydd cerbydau unigol sy'n cael eu tynnu gan geffylau at ddefnydd masnachol penodol
- sut i adnabod arwyddion traul neu niwed
- y gofynion ar gyfer gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn
- pryd mae angen gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw proffesiynol a sut i gael hwn
- sut i ddewis cerbydau sydd yn addas at y defnydd y'u bwriedir
- sut i ddewis ceffylau sydd yn addas i'w defnyddio gyda'r cerbyd a fwriedir
- pwysigrwydd sicrhau bod dogfennau'n cael eu cwblhau yn unol â chodau ymarfer a deddfwriaeth berthnasol
- y perygl i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol