Cynllunio a gweithredu deiet addas ar gyfer ceffylau

URN: LANEq416
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a gweithredu deiet addas ar gyfer ceffylau.

Bydd angen i chi ddeall effeithiau grwpiau gwahanol o faethynnau ar gorff y ceffyl, a nodi sut y gellir rhoi'r rhain i geffylau ag anghenion gwahanol. Mae hyn yn cynnwys cymharu cynnwys maeth bwydydd a ffurfio dognau ar gyfer ceffylau ar lefelau gwaith amrywiol, cyfnodau gwahanol bywyd a chydag anghenion maeth penodol.  Bydd angen i chi allu adnabod problemau deietegol cyffredin a welir mewn ceffylau sydd yn arwain at faeth gwael neu ddeiet anghytbwys.  Mae gweithredu cyfundrefnau bwydo diogel ac effeithiol hefyd yn cael ei ymgorffori.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu anghenion maeth y ceffylau yn eich gofal gan ystyried eu cyfnod mewn bywyd, lefelau gwaith ac unrhyw ofynion penodol
  2. cynllunio deiet addas a chreu cynlluniau bwydo ar gyfer ceffylau, sy'n darparu'r maeth gofynnol
  3. gwerthuso, dethol a darparu bwydydd addas o ran maeth er mwyn bodloni gofynion y cynlluniau bwydo
  4. gweithredu a monitro gweithdrefnau ar gyfer storio a chylchdroi stociau o fwydydd
  5. sicrhau bod y cyfleusterau, cyflenwadau, offer ac unrhyw adnoddau eraill sydd yn ofynnol i weithredu'r cynlluniau bwydo ar gael
  6. cyfathrebu'n effeithiol gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu cynlluniau bwydo
  7. monitro'r gwaith o weithredu'r cynlluniau bwydo ac adolygu a diwygio dognau mewn ymateb i iechyd, lles a pherfformiad y ceffyl
  8. adnabod arwyddion o ddeiet anghytbwys
  9. dethol a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
  10. sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir
  11. sefydlu a chynnal cofnodion deietegol a maeth
  12. asesu peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​swyddogaeth grwpiau maeth yn cynnwys carbohydradau, ffibr, protein, braster, fitaminau, mwynau (mwynau macro a micro) a dwr
  2. y gofynion ar gyfer grwpiau maeth gwahanol gan geffylau o oedrannau, mathau, lefelau a mathau o waith gwahanol yn cynnwys magu, a'r rheiny â gofynion deietegol arbennig
  3. pwysigrwydd rhoi sgôr i gorff ceffyl a sut i wneud hyn.
  4. sut i bwyso ceffyl gan ddefnyddio fformiwla wyddonol, tâp pwysau a phont bwyso
  5. yr ystod o ffactorau y mae'n rhaid rhoi cyfrif amdanynt wrth ffurfio dogn deietegol
  6. sut i ffurfio dogn ar gyfer ceffylau yn ystod cyfnodau gwahanol bywyd, ar gyfer mathau gwahanol o geffylau, ar gyfer ceffylau sydd ar lefelau a mathau gwahanol o waith yn cynnwys magu, ac ar gyfer y rheiny ag anghenion deietegol penodol
  7. y bwydydd gwahanol sydd ar gael ar gyfer ceffylau, eu cynnwys maethegol, a'r rheiny a ganiateir yn unol â rheoliadau cyrff llywodraethu cystadleuol
  8. y defnydd a'r mathau o gydbwyswyr bwyd masnachol, atchwanegiadau ac ychwanegion sydd ar gael i geffylau, y meintiau sydd eu hangen, buddion a'r effeithiau niweidiol os cânt eu bwydo'n anghywir
  9. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion deietegol a maeth
  10. pwysigrwydd adolygu a diwygio dognau ar gyfer ceffylau er mwyn sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu bodloni'n barhaus
  11. arwyddion deiet anghytbwys yn cynnwys ceffylau sydd dros bwysau ac o dan bwysau ac yn profi amodau ffisiolegol a metabolaidd sydd yn gysylltiedig â deiet anghytbwys
  12. achosion ac ataliaeth ystod o gyflyrau ffisiolegol a metabolaidd sydd yn gysylltiedig â deiet anghytbwys
  13. sut i newid dognau bwydo ar gyfer ceffylau mewn adwaith i anghenion deietegol newidiol fel newid mewn baich gwaith, newidiadau mewn ymddygiad, newid mewn cyflwr neu glefyd
  14. pwysigrwydd cyfathrebu'n glir gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu cynlluniau bwydo.
  15. pwysigrwydd storio bwyd ceffylau yn gywir, mesurau hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â bwydo ceffylau a sut y gellir cyflawni hyn
  16. sut y dylid gwaredu mathau gwahanol o wastraff
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Cyfrifo dognau ar gyfer ceffylau:

  • cyflwyno iechyd, cyflwr a phwysau'r ceffyl
  • math o geffyl, oed a thaldra
  • maint a math o waith a wneir (yn cynnwys ceffylau sy'n cael eu cadw ar gyfer magu)
  • natur y ceffyl
  • y gyfundrefn reoli lle caiff y ceffyl ei gadw
  • math o iard a rheolaeth (gallai hyn effeithio ar y bwydydd sy'n cael eu prynu, economeg, storio ac ymdrin â bwyd)

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cyflyrau ffisiolegol a metabolaidd sy'n gysylltiedig â deiet:

  • tanfwydo
  • gorfwyd
  • laminitis
  • colig
  • azoturia
  • anaemia
  • dolur rhydd
  • dadhydradu
  • colli electrolytau
  • tagu
  • problemau anadlol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq416

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; deiet; dognau