Rheoli magu ceffylau trwy ffrwythloni artiffisial

URN: LANEq414
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli magu cesig trwy ffrwythloni artiffisial.

Bydd hyn yn cynnwys trefnu a goruchwylio'r gwaith o baratoi'r gaseg ar gyfer ffrwythloni artiffisial, rheoli'r weithdrefn o ganfod oestrws ac amseru'r gwasanaeth trwy ddiagnosis o feichiogrwydd, archebu a threfnu dosbarthu'r semen o farch oddi ar y safle neu gasglu'r semen ceffylau o farch ar y safle, rheoli staff a phennu polisi iard.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod y dillad a'r offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal    
  3. diffinio a chyfathrebu cyfrifoldebau'r trinwyr a chyfyngiadau eu hawdurdod    
  4. gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddulliau gwaith ac offer trwy gydol y broses, a gweithredu'n briodol os oes anawsterau'n codi
  5. rheoli'r gwaith o sgrinio'r gaseg am glefydau a drosglwyddir yn rhywiol yn unol â deddfwriaeth bresennol
  6. rheoli ffyrdd y gellir atal cesig ar gyfer ffrwythloni artiffisial i hybu eu lles
  7. rheoli ymweliadau milfeddygon, sganiau a mesurau rheoli oestrws er mwyn sefydlu'r amseru cywir ar gyfer bridio cesig trwy ffrwythloni artiffisial
  8. asesu'r semen i gael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau ei fod o'r ansawdd cywir i genhedlu a gweithredu'n briodol os na chaiff ei reoli
  9. paratoi a thrin semen ceffylau yn unol â'r manylebau ar gyfer y math o semen ceffylau sy'n cael ei ddefnyddio
  10. gwirio labeli a gwaith papur semen ceffylau er mwyn sefydlu bod y semen ceffylau o'r march cywir ar gyfer y gaseg
  11. rheoli'r gwaith o ffrwythloni'r gaseg yn artiffisial yn unol â deddfwriaeth
  12. llenwi a rheoli'r gwaith o ddychwelyd y dogfennau ffrwythloni artiffisial a'r cynhwysydd ceffylau /twb bach/cludwr sych i'r cyfeiriad priodol
  13. gwneud y gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  14. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth
  15. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  16. asesu peryglon a rheoli'r risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pa ddulliau ac offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni hyn
  3. y mathau o gyfarpar, offer a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer ffrwythloni artiffisial, a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel
  4. addasrwydd cesig ar gyfer ffrwythloni artiffisial gan ddefnyddio semen ceffylau ffres, wedi'i oeri a'i rewi a'r rhesymau pam y gall cesig fod yn anaddas ar gyfer ffrwythloni artiffisial gyda rhai mathau o semen ceffylau
  5. y dulliau ar gyfer asesu ansawdd y sampl o semen ceffylau a'r camau i'w cymryd os nad yw'r semen ceffylau yn bodloni'r gofynion ansawdd cywir
  6. yr arwyddion o oestrws mewn cesig a'r dulliau y gellir eu defnyddio i gynorthwyo canfod a rheoli hyd yr oestrws
  7. oestrws ac amseru ffrwythloni artiffisial i gyflawni beichiogrwydd, yn dibynnu ar y math o semen ceffylau sy'n cael ei ddefnyddio
  8. y dulliau ar gyfer atal cesig ar gyfer ffrwythloni artiffisial er mwyn hybu eu lles
  9. trin ac atal clefydau a drosglwyddir yn rhywiol yn unol â deddfwriaeth bresennol
  10. amseriad a dulliau rhoi diagnosis o feichiogrwydd
  11. y dulliau cywir o roi diagnosis o ddeunydd gwastraff a dros ben
  12. y cofnodion priodol i'w cadw a'u harwyddocâd
  13. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  14. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq414

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; magu; ffrwythloni artiffisial; AI