Rheoli’r gwaith o storio a dosbarthu semen ceffylau at ddefnydd allanol
URN: LANEq413
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o storio a dosbarthu semen ceffylau at ddefnydd allanol. Bydd hyn yn cynnwys trefnu a goruchwylio'r gwaith o storio semen, prosesu'r semen ceffylau i gael ei ddosbarthu, yn cynnwys semen ceffylau wedi ei oeri a'i rewi, a rheoli staff a phennu polisi iard.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd hwn
- dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
- rheoli'r gwaith o baratoi semen ceffylau gan ddefnyddio dulliau priodol ac yn unol â manylebau cynhyrchu ar gyfer dosbarthu a defnydd allanol
- adnabod semen ceffylau sydd o ansawdd anaddas i gael ei ddosbarthu a chymryd y camau unioni
- sicrhau bod samplau semen ceffylau'n cael eu labelu'n glir ac yn gywir
- rheoli'r gwaith o bacio samplau o semen ceffylau a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi mewn cynwysyddion sydd yn addas ar gyfer y math o semen sydd yn cael ei ddosbarthu
- rheoli'r dogfennau cywir i gyd-fynd â'r semen ceffylau yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
- trefnu bod y semen yn cael ei gasglu neu ei bostio atoch yn unol â pholisi eich sefydliad
- gwneud addasiadau angenrheidiol i ddulliau gweithio ac offer trwy gydol y broses a gweithredu'n briodol os byddwch yn cael anawsterau
- gwneud y gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â deddfwriaeth
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli'r perygl i geffylau, i chi eich hun ac i eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pa ddullad ac offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y dulliau o brosesu semen ceffylau i gael ei ddosbarthu ar gyfer defnydd allanol, yn cynnwys semen ceffylau wedi ei oeri a'i rewi
- y ffyrdd y mae'n rhaid labelu samplau o semen ceffylau wrth eu cludo ar gyfer defnydd allanol
- sut i ddefnyddio a chynnal a chadw cynwysyddion ceffylau, tybiau bach a chludwyr sych ar gyfer dosbarthu semen ceffylau
- yr ardystiad a'r dogfennau iechyd cywir i gyd-fynd â semen ceffylau
- y trefniadau storio i fodloni deddfwriaeth berthnasol ar gyfer semen ceffylau wedi ei rewi yn y DU a'r UE
- y ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â thrwydded allforio'r UE a chymeradwyaeth
- y dulliau cywir o waredu gwastraff a deunydd dros ben
- y cofnodion priodol i'w cadw a'u harwyddocâd
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq413
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; semen