Rheoli casglu semen ceffylau i’w ddefnyddio yn y dyfodol

URN: LANEq412
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli casglu semen ceffylau i'w ddefnyddio yn y dyfodol.  Bydd hyn yn cynnwys trefnu a goruchwylio ymdrin â meirch yn ogystal â chasglu semen ceffylau.  Bydd hefyd yn cynnwys gwerthuso a phrosesu'r semen ceffylau unwaith y mae wedi cael ei gasglu, ac mae'n cynnwys semen ceffylau ffres ac wedi ei oeri. Yn ogystal â hyn, mae'n cwmpasu rheoli staff a phennu polisi iard.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
  3. rheoli casglu semen o feirch yn unol â pholisi cytûn
  4. rheoli'r gwaith o adnabod meirch, sydd yn anaddas ar gyfer casglu semen ceffylau, a chymryd y camau priodol
  5. diffinio a chyfathrebu cyfrifoldebau trinwyr a chyfyngiadau eu hawdurdod
  6. cael adborth gan drinwyr ar gynnydd y casgliad
  7. gwneud addasiadau angenrheidiol i ddulliau gweithio ac offer trwy gydol y broses, a chymryd camau priodol os ceir anawsterau wrth gasglu
  8. sicrhau bod y semen ceffylau sy'n cael ei gasglu o'r ansawdd a'r maint cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol, ac adnabod is-ffrwythlondeb mewn meirch a chymryd y camau priodol
  9. rheoli'r gwaith o baratoi a thrin semen ceffylau yn unol â manylebau cynhyrchu i'w ddefnyddio yn y dyfodol
  10. sicrhau bod samplau semen yn cael eu labelu'n glir ac yn gywir a'u rhoi yn y lleoliad cywir, fel bo angen
  11. gwneud y gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  12. trin gwastraff yn ofalus ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth
  13. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  14. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac i eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pa ddillad ac offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni'r rhain
  3. addasrwydd meirch ar gyfer casglu semen ceffylau a'r rhesymau pam y gallai meirch fod yn anaddas ar gyfer casglu semen ceffylau
  4. y dulliau ar gyfer asesu cyflwr y semen ceffylau i'w ddefnyddio yn y dyfodol
  5. y dulliau ar gyfer prosesu'r semen ceffylau i'w ddefnyddio yn y dyfodol
  6. y camau i'w cymryd os nad yw'r semen ceffylau'n bodloni'r gofynion ansawdd cywir
  7. y ffyrdd y mae'n rhaid i semen gael ei labelu a'i storio i'w ddefnyddio yn y dyfodol
  8. sut i ddefnyddio fflasgiau nitrogen a'r defnydd o nitrogen yn y broses rewi    
  9. system atgenhedlol y march
  10. canfod, atal a thrin clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
  11. ansawdd semen ceffylau, goblygiadau gorddefnyddio ac achosion a thriniaeth ar gyfer is-ffrwythlondeb ac anffrwythlondeb mewn meirch
  12. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol, lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch presennol
  13. y dulliau cywir o waredu gwastraff a deunydd dros ben
  14. y cofnodion cywir i'w cadw a'u harwyddocâd
  15. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau o gyflawni hyn
  16. y peryglon i geffylau, i chi eich hun, ac i eraill a sut y caiff rhain eu rheoli
  17. eich cyfridolebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

​Sut i brosesu'r semen ceffylau canlynol i'w ddefnyddio yn y dyfodol:

  • semen ceffylau ffres
  • semen ceffylau wedi ei oeri
  • semen ceffylau wedi ei rewi

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq412

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; semen