Rheoli’r broses ar gyfer cystadlu gyda cheffylau
URN: LANEq411
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r broses ar gyfer cystadlu gyda cheffylau.
Mae'n ymdrin â rheoli a goruchwylio'r gwaith o ddewis ceffylau sy'n addas ar gyfer cystadlaethau, cyflwyno ceffylau a gweithgareddau cyn ac ar ôl cystadlaethau.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y ddisgyblaeth a'r lefel fyddai fwyaf addas ar gyfer ceffyl unigol
 - rheoli'r broses o gyflwyno ceffylau mewn cystadlaethau priodol
 - sicrhau cydymffurfio â rheolau'r awdurdod llywodraethu
 - rheoli'r gwaith o weithredu arferion cyn ac ar ôl cystadlaethau
 - cyfathrebu gyda phersonél perthnasol
 - sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio, yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
 - asesu peryglon a rheoli perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i asesu addasrwydd ceffylau ar gyfer disgyblaethau gwahanol a phwysigrwydd hyn
 - y ffactorau amrywiol all effeithio ar botensial cystadleuol y ceffyl
 - sut i gydymffurfio ag awdurdodau llywodraethol a rheolau a rheoliadau'r gystadleuaeth
 - y gofynion mynediad a'r gweithdrefnau cofrestru ar gyfer cystadlaethau
 - y ffactorau allai effeithio ar berfformiad ceffylau mewn cystadlaethau
 - pam mae cyfathrebu effethiol yn bwysig
 - pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
 - y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff rhain eu rheoli
 - eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Personél perthnasol:
- hyfforddwr
 - marchog
 - swyddogion cystadleuaeth
 - y wasg
 
Ffactorau sy'n effeithio ar botensial cystadleuol ceffyl:
- Magu
 
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANEq411
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ceffylau        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            ceffylau; ceffyl; cystadleuaeth; rheolaeth