Gwerthuso, adolygu ac addasu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau perfformio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso, adolygu ac addasu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau perfformio. Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â rheoli hyfforddiant ceffylau perfformio.
Mae hyn yn cynnwys arsylwi ymateb y ceffyl a chael adborth am berfformiad y ceffyl, dadansoddi effeithiolrwydd y rhaglen hyfforddi ac addasu'r rhaglen hyfforddi, yn dibynnu ar ymateb y ceffyl.
Bydd angen eich bod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso ac adolygu'r rhaglen hyfforddiant yn rheolaidd yn erbyn yr amcanion cytûn ac anghenion hyfforddiant y ceffyl perfformio
- cael adborth ar ymateb y ceffyl i hyfforddiant gan bersonél perthnasol
- dadansoddi'r wybodaeth a chofnodi'r canlyniadau
- asesu gallu athletig y ceffyl a phenderfynu ar strategaeth yr ymgyrch cystadleuol
- addasu'r rhaglen hyfforddi i fodloni'r amcanion a adolygwyd
- trafod y gwerthusiad a'r addasiadau gyda phersonél perthnasol
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli'r perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr effeithiau seicolegol a chorfforol y gallai hyfforddiant eu cael ar y ceffyl
- sut i adnabod problemau ffisiolegol a seicolegol mewn ceffylau a sut i ymdrin â'r rhain
- effeithiau tymhorol ac amgylcheddol ar weithgareddau penodol
- y rhesymau dros brofion gwaed a phwyso a'r dehongliad o'r canlyniadau
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o sylweddau sydd wedi eu gwahardd
- gwerth gwerthuso rheolaidd a sut y gall hyn wella ansawdd yr hyfforddiant y mae'r ceffyl yn ei gael
- pam y mae'n bwysig cytuno ar addasiadau i raglenni hyfforddiant yn y dyfodol gyda'r holl bersonél perthnasol
- sut i werthuso ac adolygu'r rhaglen hyfforddiant yn erbyn yr amcanion
- sut i sefydlu a chadw cofnodion perfformiad cywir ar gyfer ceffylau unigol
- sut i asesu cyflwr a ffitrwydd ceffylau perfformio
- yr adnoddau sydd eu hangen i hyfforddi ceffylau i'r ffitrwydd uchaf posibl
- y ffactorau all ofyn am adolygu perfformiad posibl
- manteision ac anfanteision dulliau hyfforddi a chymhorthion gwahanol
- lles ceffyl ar ddiwedd ei yrfa
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gwerthuso ac adolygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer y mathau canlynol o geffyl:
- profiadol
- amhrofiadol
- ddim yn ffit
- ffit