Rheoli porfeydd ar gyfer ceffylau
URN: LANEq409
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli porfeydd ar gyfer ceffylau.
Dylech fod yn gallu asesu ardal er mwyn dadansoddi ei photensial i ddarparu porfeydd addas, a datblygu strategaeth ar gyfer cynnal a gwella pori.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles ceffylau, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu porfeydd ar gyfer eu haddasrwydd ar gyfer ceffylau pori
- adnabod noddweddion fydd yn cyfyngu potensial y porfeydd ar gyfer ceffylau pori
- adnabod nodweddion sydd â gofynion rheoli penodol
- cynllunio strategaeth i sefydlu a rheoli pori addas sy'n ystyried yr holl ffactorau perthnasol
- cadarnhau bod strwythur y pridd yn ddigonol a chymryd camau unioni priodol os oes angen
- sicrhau bod rhychwant y porfeydd yn ddigonol ac ail-hadu fel bo angen
- sicrhau bod dyluniad a chynllun y porfeydd yn addas ar gyfer y math hwnnw o geffyl
- sicrhau bod lloches, mynediad, ffiniau a gwasanaethau yn ddigonol a chymryd camau priodol fel bo angen
- sicrhau bod y gwaith o gynnal y porfeydd yn cael ei wneud yn gywir ac mewn ffordd sy'n cyflawni ei ddiben
- monitro'r porfeydd yn effeithiol er mwyn sicrhau bod safonau a gofynion diogelwch wedi cael eu cyflawni
- lle bo angen, cael cyngor technegol priodol yn ymwneud â gweithredu addas i leihau effeithiau plâu clefydau ac anhwylderau
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio, yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- asesu peryglon a rheoli'r perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y math o borfeydd sydd fwyaf priodol ar gyfer y math o geffyl
- pa nodweddion y dylech fod yn ymwybodol ohonynt a allai effeithio ar addasrwydd y porfeydd naill ai'n barhaol, ar gyfer stoc penodol neu'n dymhorol
- yr effaith y bydd defnydd blaenorol o'r safle, cyflwr y pridd, strwythurau presennol a gwasanaethau a'r tywydd yn eu cael ar y porfeydd
- cyflwr y tir sy'n ofynnol ar gyfer plannu effeithiol
- gofynion y safle ar gyfer draenio
- cyfraddau pori a phori cylchdroadol a'u heffaith ar ansawdd porfeydd
- y dulliau o amddiffyn y porfeydd rhag dirywiad ffisegol
- y mathau o faeth y gellir eu defnyddio, a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb mewn perthynas ag ymdrin â maethynnau
- effaith amgylcheddol posibl gweithgareddau a sut y gellir lleihau'r rhain
- y cyfyngiadau ar y defnydd o dir a'r rheoliadau cynllunio
- gweithgareddau y gellir eu gwneud i gynnal y safle a diben y gweithgareddau
- y berthynas rhwng gofynion cynhyrchu a'r angen i fonitro'r porfeydd
- ffynonellau cyngor technegol yn ymwneud â'r camau addas i leihau effeithiau plâu, clefydau ac anhwylderau
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff rhain eu rheoli
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq409
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; pori; rheolaeth