Rheoli gwerthu ceffylau

URN: LANEq408
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwerthiant ceffylau. Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi a rheoli ceffylau ar gyfer gwerthiannau trwy arwerthiant cyhoeddus a gwerthiant preifat. Mae'n cynnwys asesu'r ceffyl, dewis y dull mwyaf priodol ar gyfer gwerthu, paratoi'r ceffyl a rheoli'r broses o werthu.

Mae hefyd yn cynnwys goruchwylio gofal, lles a hyfforddiant ceffylau yn y cyfnod cyn eu gwerthu.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​rheoli gwerthu ceffylau trwy nodi'r dull mwyaf priodol o werthu ar gyfer y ceffylau yr ydych yn dymuno eu gwerthu
  2. cynllunio a chadarnhau trefniadau ar gyfer y gwerthiant
  3. cyfathrebu cynlluniau ar gyfer gwerthu ceffylau
  4. cynllunio a gweithredu rhaglen farchnata ar gyfer y gwerthiant
  5. goruchwylio gofal a lles ceffylau yn y cyfnod cyn y gwerthiant
  6. cynllunio hyfforddiant ac addysg ceffylau ar gyfer eu gwerthu
  7. sicrhau bod brechlynnau ceffylau a dogfennau pasbort wedi eu cwblhau a'u diweddaru
  8. briffio'r personél perthnasol am ddigwyddiadau yn arwain at werthiannau
  9. sicrhau bod gweithdrefnau gwerthu cyn, yn ystod ac ar ôl gwerthu'n cael eu dilyn
  10. lle bo angen, trefnu'r trefniadau teithio a llety'r ceffylau sy'n cael eu gwerthu
  11. trefnu cyflwyno ceffylau i gael eu gwerthu
  12. cwblhau dogfennau gwerthu
  13. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio, yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  14. asesu peryglon a rheoli perygl i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y dulliau o werthu ceffylau yn cynnwys gwerthiant preifat, arwerthiant, gwerthu ar wefan/y rhyngrwyd
  2. y gweithdrefnau mynediad a gwerthu
  3. sut i werthuso ac asesu ceffyl ar gyfer ei werthu
  4. y gweithdrefnau cofnodion a chatalogio
  5. gofynion datganiad iechyd y gwerthiant
  6. gofynion cyfreithiol perthnasol y gwerthiant
  7. addysg a hyfforddiant ceffylau sy'n cael eu gwerthu, yn cynnwys ymddygiad yn y stabl, teithio ac arwain mewn llaw
  8. sut i gyflwyno a pharatoi ceffylau ar gyfer eu gwerthu
  9. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut i lleihau'r rhain
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Dull priodol o werthu:

  • preifat
  • arwerthiant

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq408

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; gwerthiannau; rheolaeth