Rheoli bwrw ebol a magu stoc ifanc ceffylau

URN: LANEq407
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli bwrw ebol a magu stoc ifanc ceffylau.

Mae'n cynnwys cynllunio a gweithredu gofal iechyd fel mater o drefn a monitro datblygiad yr ebol ifanc.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​diffinio a chyfathrebu cyfrifoldeb tîm ac unigolion a chyfyngiadau awdurdod
  2. sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  3. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
  4. rheoli gofal bwrw ebol a gofalu am yr ebol newydd-anedig, yn unol ag ymarfer y diwydiant
  5. adnabod unrhyw broblemau gyda'r ebol a'r gaseg a chymryd y camau priodol
  6. cael a gweithredu ar adborth ar gynnydd y gaseg a'r ebol
  7. cynllunio a gweithredu deiet priodol ar gyfer magu stoc ceffylau ifanc er mwyn gwella eu twf a'u datblygiad
  8. adolygu iechyd, twf, datblygiad ac ymddygiad stoc ifanc ceffylau
  9. annog unigolion i wneud argymhellion ynghylch sut y gellid gwella gweithdrefnau
  10. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u cadw yn unol â gofynion deddfwriaeth perthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  11. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni'r rhain
  3. defnyddio teledu cylch cyfyng a larymau meirch
  4. adnabod a thrin problemau iechyd cesig ac ebolion yn cynnwys rheoli parasitiaid
  5. y gweithdrefnau rheoli ar gyfer ebolion wedi eu hanfurffio
  6. y gweithdrefnau maethu a gofalu am ebol amddifad
  7. gofynion deietegol y gaseg a'r ebol i wella eu twf a'u datblygiad
  8. problemau datblygu wrth dyfu stoc ifanc a'u triniaethau perthnasol
  9. cludo cesig ac ebolion ar y ffordd, ar y môr a thrwy'r awyr
  10. y weithdrefn gofrestru
  11. gweithdrefnau a phroblemau diddyfnu
  12. dulliau gwahanol o gadw stoc ifanc.
  13. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  14. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir rheoli'r rhain
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq407

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; magu; ebolion