Rheoli magu ceffylau ar gyfer cyplu naturiol

URN: LANEq406
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o fagu ceffylau ar gyfer cyplu naturiol, ac mae'n cynnwys trefnu a goruchwylio cyplu, dewis caseg a march, briffio a rheoli staff a phennu polisi iard.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
  3. rheoli magu ceffylau ar gyfer cyplu naturiol trwy ddewis meirch a/neu gesig yn unol ag ymarfer y diwydiant
  4. diffinio a chyfathrebu cyfrifoldebau'r ymdrinwyr a chyfyngiadau awdurdod
  5. cael adborth gan ymdrinwyr ar gynnydd cyplu
  6. cymryd camau priodol os bydd anawsterau yn ystod cyplu
  7. nodi is-ffrwythlondeb mewn cesig a/neu feirch a chymryd camau priodol
  8. annog unigolion i wneud awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella gweithdrefnau
  9. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u cadw, fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  10. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y dillad a'r offer amddiffynnol personol sydd angen eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni'r rhain
  3. pwysigrwydd cydymffurfio, achres, gwerth a pherfformiad blaenorol wrth ddewsi stoc magu
  4. system atgenhedlol y gaseg a rheolaeth hormonaidd y cylch
  5. canfod oestrws a dylanwadu ar y cylch oestrws
  6. system atgenhedlol y march, ansawdd semen a goblygiadau gorddefnyddio
  7. canfod, atal a thrin clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
  8. achosion a thriniaeth is-ffrwythlondeb mewn cesig a meirch
  9. dulliau ac amseriad profion beichiogrwydd
  10. sut i gynnal lles corfforol a seicolegol y march
  11. effeithiau cludo cesig, meirch ac ebolion ar y ffordd, môr a thrwy'r awyr
  12. cadw a threfnu cofnodion greoedd
  13. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut i reoli'r rhain
  14. eich cyfrifoldebau yn unol a deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq406

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; magu; rheolaeth