Datblygu a gweithredu rhaglenni hyfforddi ar gyfer ceffylau perfformio

URN: LANEq405
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau perfformio.

Mae'n cynnwys asesu cyflwr presennol y ceffyl, gosod nodau ar gyfer y ceffyl a dewis y dull mwyaf priodol o hyfforddiant er mwyn galluogi'r ceffyl i gyflawni'r nodau hynny.  Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso ac adolygu'r rhaglen hyfforddiant er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fodloni'r amcanion.  Dylai'r amcanion a'r rhaglen hyfforddiant fod yn seiliedig ar gyfyngiadau'r ceffyl.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â dablygu a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer ceffylau perfformio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwerthuso perfformiad a chyflwr presennol y ceffyl a nodi anghenion hyfforddiant y ceffyl
  2. sefydlu a chytuno ar amcanion gyda'r personél perthnasol, a datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer y ceffyl er mwyn bodloni'r lefel perfformiad gofynnol
  3. ffurfio nodau a dulliau perfformio yn seiliedig ar yr amcanion cytûn, yr anghenion hyfforddi, cyfyngiadau'r ceffyl ac adnoddau
  4. cyfathrebu gofynion y rhaglen hyfforddiant arfaethedig i bawb sydd yn gysylltiedig â'i gweithredu
  5. goruchwylio'r gwaith o ddyrannu adnoddau i gyflawni amcanion y rhaglen hyfforddiant
  6. sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant yn cael ei gweithredu i fodloni'r amcanion a nodir ar gyfer y ceffyl
  7. cael adborth gan bawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r rhaglen hyfforddiant
  8. adolygu a diwygio'r rhaglen hyfforddiant er mwyn ystyried ymateb y ceffyl i'r hyfforddiant hyd yn hyn
  9. sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u storio, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  10. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer rhaglen hyfforddi ceffyl perfformio
  2. y ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad y ceffyl a'u heffaith ar y rhaglen hyfforddi
  3. sut i ddatblygu rhaglen hyfforddi yn seiliedig ar yr amcanion gofynnol a'r adnoddau sydd ar gael
  4. y gofynion ar gyfer iechyd a lles ceffylau yn ystod pob cyfnod o'r hyfforddiant
  5. pwysigrwydd briffio a pharhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r rhaglen hyfforddi
  6. y rhesymau dros brofi gwaed, pwyso a dehongli'r canlyniadau
  7. y sylweddau sydd wedi eu gwahardd
  8. manteision ac anfanteision dulliau hyfforddi gwahanol
  9. effeithiau hyfforddiant ar les meddwl a chorfforol y ceffyl
  10. dulliau hyfforddi addas i fodloni anghenion y rhalgen hyfforddi
  11. pwysigrwydd adolygu a diwygio rhaglen hyfforddi i fodloni'r amcanion
  12. sut i adnabod cyfyngiadau ceffylau i fodloni'r amcanion hyfforddi
  13. egwyddorion ffisioleg ymarfer ar gyfer ceffylau
  14. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq405

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; hyfforddiant