Datblygu a gweithredu polisi bridio a magu ar gyfer ceffylau

URN: LANEq404
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu polisi bridio a magu ar gyfer ceffylau.  Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â phenderfyniadau rheoli a gwneud polisïau yn ymwneud â rheoli gre, ac mae'n cynnwys dewis a rheoli cesig magu, cesig sy'n bwrw ebol, stoc ifanc a/neu feirch.

Mae'r safon hon yn cynnwys datblygu a gwerthuso'r polisi rheoli greoedd, yn cynnwys dewis cesig a meirch ac arferion rheoli o ddydd i ddydd, fel bwydo yn ogystal â magu stoc ifanc.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd anifeiliaid ac iechyd a lles mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​datblygu polisi bridio a magu ar gyfer ceffylau yn seiliedig ar werthuso tueddiadau yn y dyfodol, anghenion sefydliadol a'r farchnad, y cynllun busnes ac adnoddau staff
  2. sicrhau bod nodau ac amcanion y polisi'n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac arfer gorau cyfredol
  3. cyfathrebu'r polisi i bawb fydd yn gysylltiedig â'i weithredu
  4. goruchwylio gweithredu'r polisi yn effeithiol
  5. sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  6. gwerthuso'r polisi yn erbyn y nodau a'r amcanion a gytunwyd ar gyfnodau cytûn
  7. gweithredu ar benderfyniadau yn deillio o'r broses werthuso yn brydlon
  8. icrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  9. asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
  3. y diwydiant bridio ceffylau, ei ddatblygiadau a thueddiadau i'r dyfodol
  4. y dulliau o ddadansoddi tueddiadau
  5. y codau ymarfer a'r gofynion deddfwriaethol sy'n llywodraethu bridio a magu ceffylau
  6. y cynlluniau magu a chofrestru, cofrestru cesig, meirch ac ebolion
  7. achres a dewis cesig a meirch at y defnydd y'u bwriadwyd
  8. polisïau ar ddatgelu gwybodaeth
  9. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  10. telerau, ffioedd a dulliau talu greoedd, a'r ffurflen enwebu
  11. y rheoliadau'n ymwneud â brechu, swabio a chlefydau gwenerol
  12. gofynion deietegol ac ymarfer cesig, meirch a stoc ifanc
  13. rôl y llawfeddyg milfeddygol yn rheoli greoedd yn effeithiol
  14. sut i ffurfio gweithdrefnau ffrwythloni yn unol ag anghenion y gaseg, y march a'r diwydiant.
  15. Pwysigrwydd adolygu systematig i wella polisi
  16. Pwysigrwydd sicrhau bod addasiadau polisi'n cael eu gweithredu a'u lledaenu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq404

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; bridio; polisi; gre