Rheoli hyfforddiant ceffylau ifanc

URN: LANEq403
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gysylltiedig â rheoli hyfforddiant ceffylau ifanc. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio torri a marchogaeth ceffylau.  Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â rheoli a goruchwylio addysg y ceffyl yn cynnwys cega, arwain a rhoi ar ffrwyn hir, mynd ar gefn a marchogaeth i ffwrdd a chyflwyno i'r offer torri, gwaith daear a mynd ar eu cefn.

Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys derbyn disgyblaeth, symudiadau syml a gweithio yng nghwmni ceffylau eraill.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu a rheoli'r peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
  2. rheoli hyfforddiant ceffylau ifanc trwy ddatblygu rhaglen hyfforddiant addas ar gyfer y ceffyl
  3. sicrhau bod y dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  4. gweithredu'r rhaglen dorri, briffio'r trinwyr a chadarnhau eu dealltwriaeth
  5. rheoli a chydlynu cyflwyno'r ceffyl ifanc i'r broses dorri yn llwyddiannus
  6. gwerthuso cynnydd y ceffyl yr holl amser, a chytuno ar unrhyw addasiadau sy'n ofynnol i'r rhaglen a'u gweithredu
  7. sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth a'r sefydliad perthnasol
  8. defnyddio arferion gwaith sydd yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau'r iard

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddatblygu cynllun ar gyfer hyfforddi ceffylau ifanc
  2. pwysigrwydd gwerthuso ac addasu'r cynllun
  3. egwyddorion hyfforddi ceffylau ifanc o wyth mis i fynd ar eu cefn ac or adeg y cânt eu marchogaeth i ffwrdd
  4. y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
  5. y defnydd o offer arbenigol a defnyddio harneisiau neu harnais
  6. diben arwain a rhoi ar ffrwyn hir yn y rhaglen
  7. ceffylau sydd wedi eu heffeithio gan hyfforddiant gwael neu geffylau â phroblemau ymddygiad
  8. effeithiau seicolegol a ffisiolegol y gall gweithgareddau torri eu cael ar y ceffyl
  9. pryd i ddechrau'r rhaglen a chanlyniadau gorweithio ceffylau anaeddfed
  10. effeithiau seicolegol newidiadau mewn amgylchedd ar y ceffyl
  11. effaith cyflwyno ceffylau i symudiadau syml, o weithio yng nghwmni ceffylau eraill, dylanwadau allanol a thraffig
  12. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
  13. y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
  14. eich cyfrifoldebau yn unol a deddfwriaeth a chodau ymarfer lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq403

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; hyfforddiant; rheoli