Dewis ceffylau a nodi eu haddasrwydd ar gyfer dibenion penodol

URN: LANEq402
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis ceffylau a nodi eu haddasrwydd ar gyfer dibenion penodol, a allai fod ar gyfer magu neu berfformiad.

Mae'n cynnwys adnabod y nodweddion sydd eu hangen ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn disgyblaeth ddewisol.  Mae hyn yn cynnwys ystyried bridiau, tras a chofnodion perfformiad. Mae hefyd yn gofyn am asesu cydymffurfio sefydlog a deinamig, mewn perthynas â'r ddisgyblaeth ddewisol, a'r gallu i ffurfio barn am addasrwydd a photensial ceffyl.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffylau, yr holl amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
  2. sefydlu a chadarnhau y dibenion penodol a fwriedir ar gyfer y ceffyl
  3. cadarnhau unrhyw ofynion penodol ar gyfer y ceffyl
  4. nodi addasrwydd cael ac asesu gwybodaeth fagu a chofnodion ar gyfer y ceffyl yr ydych yn ei ystyried
  5. gwirio neu amcangyfrif oed y ceffyl
  6. sefydlu a gwerthuso perfformiad, natur a phrofiad
  7. gwneud gwerthusiad o gydymffurfiad sefydlog y ceffyl yn erbyn gofynion penodol
  8. gwneud gwerthusiad o gydymffurfiad deinamig y ceffyl yn cynnwys osgo, cydbwysedd a symudiad
  9. nodi unrhyw ddiffygion a thrafod eu goblygiadau gydag unigolion perthnasol
  10. pennu'r dull mwyaf addas o sefydlu cadernid ac iechyd y ceffyl
  11. asesu potensial, addasrwydd a gwerth y ceffyl yn erbyn gofynion, a gwneud dewis
  12. sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ y peryglon i geffylau, chi eich hun ac eraill a sut y gellir rheoli'r rhain
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol.
  3. sut a pham y mae rhai bridiau a mathau yn addas at ddibenion penodol
  4. pwysigrwydd a goblygiad achres
  5. rôl y cronfeydd data magu a pherfformiad
  6. sut i roi oedran ar geffyl
  7. gweithdrefnau cofrestru, hunaniaeth ceffyl a phasbortau
  8. y gwahaniaethau o ran cydymffurfio â rolau gwaith amrywiol
  9. goblygiadau cydymffurfio gwael ac anffurfiadau esgyrn
  10. goblygiadau pedoli a chydbwysedd carnau
  11. asesu cydymffurfio sefydlog a deinamig, yn cynnwys heneiddio
  12. y berthynas rhwng anatomeg ysgerbydol, cyfansoddiad cyhyrol a chadernid y ceffyl
  13. amodau gwerthu a gwarantau pan fydd ceffylau'n cael eu prynu
  14. yr archwiliadau milfeddygol ar gyfer prynu, pelydr X a phrofion gwaed
  15. y meysydd o'r gyfraith sy'n gysylltiedig â phrynu a gwerthu ceffylau
  16. gofynion ac argymhellion yswiriant
  17. pwysigrwydd rhoi cyngor cywir a chanlyniadau camgymeriadau
  18. pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai’r gofynion penodol ar gyfer y ceffyl gynnwys taldra, lliw, rhyw, ac ati.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq402

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; adnabod; tasgau