Datblygu a gweithredu polisi rheoli gofal ceffylau a stablau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys datblygu a gweithredu polisi rheoli gofal ceffylau a stablau ar gyfer gweithio neu fagu ceffylau, er mwyn gwella eu hiechyd a'u cyflwr. Mae'r safon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am benderfyniadau gwneud polisïau a rheoli ceffylau.
Mae hefyd yn cynnwys rheoli'r ceffylau o dan straen, yn cynnwys gallu adnabod pan fydd angen cymorth arbenigol ar geffyl, cyfathrebu gyda'r arbenigwr, gwerthuso effeithiolrwydd mewnbwn arbenigol a chynnydd y ceffyl.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yr holl amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu polisi rheoli gofal ceffylau a stablau yn seiliedig ar werthuso lles a ffitrwydd ceffylau, y cynllun busnes ac adnoddau staff
- sicrhau bod dyluniad yr iard ac adeiladwaith y stabl yn addas at ddefnydd ceffylau
- sicrhau bod nodau ac amcanion y polisi'n cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau'r diwydiant
- cyfathrebu a gwneud y polisi ar gael i'r personél perthnasol
- goruchwylio gweithredu'r polisi yn effeithiol
- sicrhau bod dillad ac offer amddifynnol personol priodol yn cael eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- dewis a gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch priodol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal
- trefnu llety, amgylchedd a gofal dyddiol addas ar gyfer y ceffyl
- monitro iechyd a lles y ceffyl a gwerthuso yn erbyn polisi gofal ceffylau
- nodi'r angen am fewnbwn arbenigol a chymryd camau priodol
- sicrhau bod y gweithredoedd a ragnodir gan yr arbenigwr yn cael eu cynnal gan bersonél perthnasol
- cael adborth ar ymateb y ceffyl i fewnbwn arbenigol gan bersonél perthnasol
- gweithredu'n briodol mewn ymateb i unrhyw faterion iechyd a lles
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff bob amser
- sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a'u storio yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- gwerthuso'r polisi yn erbyn y nodau a'r amcanion a nodwyd yn ystod cyfnodau y cytunwyd arnynt
- gweithredu ar y penderfyniadau yn sgil y gwerthusiad yn brydlon
- asesu peryglon a rheoli risg i geffylau, chi eich hun ac eraill mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd sefydlu a chadw cofnodion
- eich cyfrifoldebau yn unol a deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch.
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol y dylid eu gwisgo ar gyfer y gweithgaredd
- sut i werthuso lles y ceffyl yn erbyn y cynllun busnes a'r adnoddau staff er mwyn datblygu polisi rheoli gofal ceffylau a stablau
- sut i fonitro a gwerthuso'r polisi yn erbyn y nodau a'r amcanion
- y parasitiaid mewnol sy'n effeithio ar geffylau a dyluniad rhaglenni rheoli parasitiaid
- y gofynion ar gyfer traed a phedoli, yn cynnwys pedoli adferol
- y rhaglenni brechu a sicrhau NEU werthuso?? eu cynnwys yn y polisi
- y mathau o stabl, cartref a gwely a'u heffaith ar iechyd a lles y ceffyl
- pwysigrwydd gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut y gellir cyflawni hyn
- ffisioleg a seicoleg ceffylau
- arferion effeithiol rheoli stablau
- y rheoliadau deddfwriaeth, lles, yswiriant a phasbort perthnasol
- rheoli staff a phersonél
- gofal ceffylau hŷn, ceffylau wedi ymddeol a cheffylau ar ddiwedd eu bywyd gwaith
- sut i asesu cyflwr, iechyd a lles ceffylau
- y ffactorau sydd yn pennu pryd mae angen mewnbwn arbenigol
- y berthynas rhwng arbenigwyr a grwpiau proffesiynol gwahanol, rôl therapïau amgen, y ffisiotherapydd a'r maethegydd
- y diffiniad o straen a gallu adnabod a deall y ffactorau sy'n cyfrannu at straen i geffylau
- dulliau triniaeth ar gyfer categorïau gwahanol o salwch, yn cynnwys salwch metabolaidd, trawma, clefyd a chloffni
- goblygiadau peidio gweinyddu triniaeth yn gywir a phwysigrwydd monitro'r ymateb i'r driniaeth