Gofalu am a pharatoi’r gaseg ar gyfer ffrwythloni artiffisial
URN: LANEq348
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am a pharatoi'r gaseg ar gyfer ffrwythloni artiffisial.
Dylech fod yn gallu gofalu am y gaseg ddiffrwyth, trefnu sganiau milfeddygol i gynorthwyo amseru'r ffrwythloni artiffisial, paratoi'r gaseg ar gyfer ffrwythloni artiffisial a gofalu am gesig sy'n cario ebol o'r cyfnod ffrwythloni artiffisial i fwrw ebol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo dillad priodol ac offer amddiffynol personol ar gyfer y gweithgaredd
- gofalu am y gaseg ddiffrwyth er mwyn cynyddu ei chyfleoedd ar gyfer beichiogi
- cymryd rhagofalon priodol i atal clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
- cyfrannu at y gwaith o drefnu cynlluniau sganio i gynorthwyo amseru'r ffrwythloni artiffisial
- paratoi'r gaseg yn gywir ar gyfer ffrwythloni artiffisial, yn unol ag arfer da presennol
- cynorthwyo'r broses ffrwythloni artiffisial ar y gaseg
- gwneud trefniadau ar gyfer profion beichiogrwydd a chyfathrebu â'r person priodol yn brydlon
- cynnal gofal iechyd cesig sydd yn cario ebol fel mater o drefn o ffrwythloni artiffisial i fwrw ebol, yn cynnwys rheoli parasitiaid, crafu dannedd, tocio traed a brechlynnau arferol
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
- monitor a chynnal iechyd a diogelwch ceffylau, chi eich hun ac eraill yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y rheoliadau'n ymwneud â swabio cesig am glefydau gwenerol a heintiau
- sut i adnabod clefyd gwenerol a sut i hysbysu'r awdurdod perthnasol
- y cynlluniau magu a chofrestru
- dulliau ac amseriad profion beichiogrwydd
- achres a dethol cesig a meirch ar gyfer magu, a'r defnydd a fwriedir o hiliogaeth
- y cylch oestrws, arwyddion o oestrws a rheolaeth hormonaidd ar gyfer ffrwythloni artiffisial
- y mewnbwn milfeddygol sy'n ofynnol i sefydlu'r amseru cywir ar gyfer ffrwythloni artiffisial
- yr offer i gael ei ddefnyddio yn ystod ffrwythloni artiffisial
- y gweithdrefnau i'w dilyn wrth ffrwythloni'r gaseg yn artiffisial a phan nad yw ffrwythloni artiffisial yn cael ei ganiatáu
- anatomeg atgenhedlol y gaseg a'r march
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut caiff y rhain eu rheoli
- eich cyfrfoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles ac iechyd a diogelwch perthnasol anifeiliaid
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ofalu am a pharatoi cesig ar gyfer cyplu, yn ogystal â'r dulliau o gyflawni hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq348
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; caseg; beichiogrwydd; ebol