Paratoi ceffylau ar gyfer cystadlaethau
URN: LANEq346
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi ceffylau ar gyfer cystadlaethau.
Dylech fod yn gallu gofalu am y ceffyl tra'ch bod yn y digwyddiad a chyflwyno'r ceffyl yn y gystadleuaeth ar yr amser priodol.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Noder: Nid yw'r safon hon yn cynnwys cludo ceffylau i gystadlaethau, sydd wedi ei gynnwys yn safon LANCS65.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- cydymffurfio â rheoliadau a rheolau'r gystadleuaeth drwy'r adeg
- sicrhau bod y ceffyl yn cael gofal tra'i fod yn y digwyddiad
- trin ac atal y ceffyl mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, yn osgoi ymddygiad sydd yn peri pryder ynghylch lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- paratoi'r ceffyl ar gyfer y gystadleuaeth trwy osod harneisiau ac offer priodol ar gyfer y ddisgyblaeth benodedig
- cyflwyno ceffylau yn y gystadleuaeth ar yr adeg gywir
- cyfathrebu gydag eraill er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau'n cael eu dilyn
- asesu iechyd y ceffyl cyn ac ar ôl y gystadleuaeth
- adnabod ac adrodd ynghylch unrhyw broblemau o ran graddfeydd adferiad, trychiadau, chwyddo, pedolau, dim archwaeth am fwyd a dadhydradu
- cadw cofnodion cywir a diweddar yn unol â rheoliadau'r gystadleuaeth a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- monitro a chynnal eich diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- yr awdurdodau llywodraethu perthnasol a rheolau a rheoliadau'r gystadleuaeth
- y mathau o gystadleuaeth a lleoliad
- y gweithdrefnau cofrestru perthnasol
- pasbortau a gofynion hunaniaeth ceffylau
- y gwiriadau iechyd a lles gofynnol
- y sylweddau sydd wedi eu gwahardd
- pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal priodol, a lleihau straen ar y ceffyl a'r peryglon i chi eich hun ac i eraill
- y problemau allai ddigwydd gyda cheffylau mewn amgylchedd cystadleuaeth
- y gweithdrefnau cynhesu cyn perfformiad
- y ffactorau sy'n effeithio ar y defnydd o harneisiau ac offer
- y mathau o hinsawdd, cyflwr y tir, y dirwedd a'u heffaith ar berfformiad
- pa gofnodion dylid eu cynnal a'u pwysigrwydd
- y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Gofalu am geffylau mewn dwy gystadleuaeth wahanol
Paratoi gyda'r mathau canlynol o geffyl:
- profiadol
- amhrofiadol
Gofalu am geffylau ar ôl cystadleuaeth trwy:
- dynnu harneisiau ac offer,
- cerdded allan
- cynhesu i lawr
- golchi i lawr
- gosod carthenni/rhwymau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq346
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; cystadlaethau; ras