Datblygu a chymhwyso sgiliau marchogaegth mewn ras

URN: LANEq343
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chymhwyso sgiliau marchogaeth mewn ras. Mae'n cynnwys marchogaeth ceffylau rasio mewn rasys wedi eu rheoleiddio, o dan drwydded, naill ai fel joci neidio neu joci gwastad.

Mae'r safon hefyd yn cynnwys datblygu dealltwriaeth a chymhwyso'r rheolau a'r rheoliadau i fod yn joci proffesiynol.

Mae'r safon yn cynnwys deall strwythur sylfaenol y diwydiant, prif gyfrifoldebau sefydliadau allweddol a sut mae'r cydrannau'n cydweithio.

Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.

Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
  2. nodi a chytuno ar raglen i ddatblygu sgiliau marchogaeth mewn ras
  3. gweithredu rhaglen hyfforddiant i ddatblygu a gwella sgiliau marchogaeth mewn ras
  4. cymhwyso sgiliau marchogaeth mewn ras mewn rasys wedi eu rheoleiddio, o dan drwydded
  5. gwerthuso'r sgiliau marchogaeth mewn ras i wella eich perfformiad chi a'r ceffyl yn y dyfodol
  6. monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
  2. sut i nodi a chytuno ar raglen i ddatblygu sgiliau marchogaeth mewn ras
  3. sut i weithredu rhaglen hyfforddiant er mwyn datblygu a gwella sgiliau marchogaeth mewn ras
  4. sut i gymhwyso sgiliau marchogaeth mewn ras mewn rasys wedi eu rheoleiddio, o dan drwydded
  5. sut i werthuso'r sgiliau marchogaeth mewn ras i wella eich perfformiad chi a'r ceffyl yn y dyfodol
  6. y rheoliadau sydd yn gymwys i jocis i'w galluogi i ymddwyn yn broffesiynol yn eu camp
  7. gorchmynion a rheolau rasio yn ymwneud â cheffylau rhedeg a rasio
  8. strwythur sylfaenol y diwydiant, prif gyfrifoldebau sefydliadau allweddol a sut mae'r cydrannau'n cydweithio
  9. y peryglon i geffylau, i chi ac i eraill a sut y gellir lleihau'r rhain
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEq343

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ceffylau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffylau; ceffyl; ceffylau rasio; jocis